2501 - Cyflwyniad i Gymdeithasau Tai
£150
£200
Ar gyfer pwy mae hyn?
Staff ac aelodau bwrdd sydd wedi ymuno â chymdeithas tai yn ddiweddar a/neu bobl o sefydliadau eraill sy'n dymuno deall sut mae cymdeithasau tai yn gweithio. Cwrs sylfaenol yw hwn ac mae'n tybio nad oes fawr o wybodaeth flaenorol o gymdeithasau tai.
Pam y dylech fynychu?
Gall staff neu aelodau pwyllgor a ymunodd â chymdeithas tai yn ddiweddar ganfod yr ystod eang o bolisïau, rheoliadau a geirfa yn ddryslyd iawn. Bydd y cwrs hwn yn helpu i symleiddio rôl a gweithgareddau cymdeithasau tai, yn ogystal ac egluro peth o'r eirfa.
Trosolwg o'r cwrs:
Mae'r cwrs yn anelu i roi dealltwriaeth ehangach i'r rhai sy'n cymryd rhan o rôl cymdeithasau tai mewn darparu tai cymdeithasol yng Nghymru.
Erbyn diwedd y cwrs bydd y cyfranogwyr wedi:
- Edrych ar bwysigrwydd cynnwys tenantiaid wrth ddarparu tai cymdeithasol
- Dynodi'r problemau ariannol a chyfreithiol allweddol sy'n wynebu cymdeithasau tai
- Trafod hanes a llywodraethiant cymdeithasau tai
Am yr hyfforddwr:
Mae ein hyfforddwr, Deborah Walthorne, yn hyfforddwr ac ymgynghorydd uchel ei barch sydd â hanes hir a llwyddiannus o gynnig cyngor a chefnogaeth ymarferol o'r radd flaenaf. Mae Deborah wedi bod yn hyfforddwr cyswllt ac yn ymgynghorydd gyda Cartrefi Cymunedol Cymru ers dros 15 mlynedd.