Jump to content

16 Ebrill 2014

Cartrefi Cymunedol Cymru yn ymateb i ymgynghoriad ECO Llywodraeth y Deyrnas Unedig

Mae Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC) heddiw (dydd Mercher 16 Ebrill) wedi ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar Ddyfodol y Rhwymedigaeth Cwmni Ynni (ECO).

Mae CHC yn siomedig ac yn bryderus am y newidiadau sy'n cael eu hystyried yn yr ymgynghoriad i ECO, prif raglen Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar effeithiolrwydd ynni. Mae CHC yn neilltuol o bryderus am y toriadau arfaethedig i'r brif raglen, CERO (Rhwymedigaeth Gostwng Allyriadau Carbon) a chynigion i ddim ond targedu 100,000 o anheddau wal soled erbyn 2017.

Dywedodd Tomos Davies, Swyddog Ynni a Chynaliadwyedd CHC: "Mae'r targed o insiwleiddio 100,000 o anheddau gyda waliau solid yn brin iawn o uchelgais o ystyried y nifer uchel o aelwydydd sy'n byw mewn cartrefi anodd eu trin a thlodi tanwydd yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Unedig.

"Dengys ystadegau diweddar a gyhoeddwyd gan DECC (Adran Ynni a Newid Hinsawdd) y gosodwyd mwy na 31,809 o fesurau effeithiolrwydd ynni wedi eu gosod mewn cartrefi ledled Cymru yn ystod 2013 (1). Er bod CHC yn croesawu'r ffigurau, mae'n bryderus iawn y bydd y toriadau arfaethedig i ECO yn cael effaith negyddol ar ariannu mesurau effeithiolrwydd ynni yng Nghymru yn y dyfodol.

"Bydd tenantiaid a pherchnogion cartrefi yng Nghymru sydd eisoes mewn tlodi tanwydd a chaledi economaidd yn dioddef ymhellach oherwydd newidiadau mewn ECO. Fel canlyniad i newidiadau, bydd mwy o denantiaid ar draws Cymru yn parhau mewn tlodi anodd a byw mewn cartrefi anodd eu trin.

"Galwn ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gynnal cyllid ECO a Llywodraeth Cymru i ddefnyddio cyllid yr Undeb Ewropeaidd i gynnal ei buddsoddiad mewn effeithiolrwydd ynni yng Nghymru."

www.gov.uk/government/publications/green-deal-energy-company-obligation-eco-and-insulation-levels-in-great-britain-quarterly-report-to-december-2013