Cyhoeddi ein partneriaid masnachol ar gyfer 2025/26

Mae Cartrefi Cymunedol Cymru yn falch i barhau i weithio gyda’n partneriaid masnachol am flwyddyn arall.
Dros y 12 mis diwethaf rydym wedi gweithio’n agos gyda’n partneriaid masnachol, yn cynnwys Centrus, Travis Perkins, CHIC, Hugh James, Gallagher, Utility Aid, Lovell, RLH Architectural, Quantum Advisory a Barcud Shared Services. Bu eu hymroddiad i’r sector yn ganolog wrth ddarparu datrysiadau buddiol i gymdeithasau tai a’r cymunedau a wasanaethant.
Yn eu tro, mae cymdeithasau tai wedi manteisio’n fawr o’r ddealltwriaeth ychwanegol, gwybodaeth werthfawr a chefnogaeth ymroddedig ein partneriaid masnachol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Nawr, rydym yn falch iawn i gyhoeddi y bydd y cysylltiadau hynny yn parhau am drydedd blwyddyn ac y byddwn hefyd yn croesawu i partneriaid newydd.
Ar 1 Ebrill 2025, ymunodd Newhall Janitorial a Savills UK â ni fel partneriaid masnachol.
Dewiswyd y sefydliadau hyn am eu harbenigedd, eu dymuniad i gefnogi ein sector a’u hawydd i ddysgu mwy am gymdeithasau tai Cymru.
Mae gan Newhall Janitorial enw rhagorol am wasanaeth cwsmeriaid fel dosbarthydd arbenigol cynnyrch glanhau a hylendid ledled De Cymru.
Yn gweithredu ers 1988, mae gan Newhall ymroddiad i ansawdd ei gynnyrch a gwasanaeth i gwsmeriaid. Mae’n dewis gan gynhyrchwyr blaenllaw yn y diwydiant ac yn rhoi pwysigrwydd enfawr ar gyflymder ac effeithiolrwydd cyflenwad. Eisoes yn gweithio yn y sector yng Nghymru, maent yn cefnogi cymdeithasau tai gyda datrysiadau glanhau blaengar a chynaliadwy.
Mae ein partneriaeth gyda CHC yn cynnig nifer fawr o fanteision, yn cynnwys rhannu ymrwymiad i lesiant cymunedol, cynaliadwyedd ac arloesedd, cefnogaeth i gynlluniau tai cymdeithasol, cryfhau economïau lleol a meithrin cysylltiadau hirdymor.
Nod y cydweithio yma yw gwella amodau byw, hyrwyddo arferion eco-gyfeillgar, gwella safonau hylendid, creu cyfleoedd swydd a gyrru newid cadarnhaol. Mae’r bartneriaeth yn gyffrous ac edrychwn ymlaen at weithio’n agos gyda CHC i wneud gwahaniaeth ystyrlon i fywydau pobl ledled Cymru.
Mae Savills UK yn darparu datrysiadau blaengar i ateb llawer o heriau a chyfleoedd tai. Mae’n gweithio gyda chleientiaid i alluogi eu sefydliadau i esblygu a ffynnu mewn diwydiant sy’n newid yn gyflym.
Mae’r tîm cenedlaethol o dros 100 arbenigwyr yn darparu ystod helaeth o wasanaethau ar gyfer cymdeithasau tai gyda meysydd arbenigedd yn cynnwys datblygu tai, prisiant, llywodraethiant, gwneud arolwg o adeiladau, rheoli asedau strategol a di-garbon.
Mae Savills hefyd yn cynnig gwasanaeth ymgynghori ar drysorlys a chyllid corfforaethol.
Rydym yn wirioneddol falch i fod yn bartner masnachol i Cartrefi Cymunedol Cymru, gan ein bod yn credu yn gryf y bydd y cynnig gan Adran Tai Fforddiadwy Savills yn fanteisiol i LCC Cymru ar adeg o straen sylweddol i’r sector.
Fel darparydd hirdymor o wasanaethau i sector LCC Cymru, rydym yn awyddus i
weithio gyda CHC a’n haelodau i ddyfnhau ein cysylltiadau yng Nghymru ac yn bwysig, sicrhau datrysiadau parhaus i’r problemau a wynebir wrth ddarparu digon o dai i bawb.
Rydym wrth ein bodd i groesawu ein partneriaid newydd atom. Mae’n wych dathlu’r cyfle cadarnhaol i rannu arbenigedd ein gilydd a helpu ein sector i barhau i gael effaith enfawr ar gymunedau ledled Cymru.
I ganfod mwy am ein 12 partneriaid masnachol, cliciwch yma.