CHIC
Gwasanaethau
Mae CHIC yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau i’n haelodau yn y sector tai fforddiadwy, i gyrff sector cyhoeddus eraill ac i’n helusennau. Rydym yn darparu datrysiadau caffael a chefnogaeth contract, gan greu arbedion ariannol, effeithlonrwydd a mwy o werth cymdeithasol.
- Mae gan ein haelodau fynediad at amrywiaeth eang o gontractwyr, cyflenwyr, masnachwyr ac ymgynghorwyr trwy ein fframweithiau a DPS (System Bwrcasu Ddeinamig), y gellir eu cael trwy gystadleuaeth ‘mini’ neu ddyfarniad uniongyrchol.
- Mae aelodaeth o CHIC am ddim ac ar gael i unrhyw gorff sector cyhoeddus. Ar ôl dod yn aelod o CHIC, bydd y Pennaeth Gwasanaethau Aelodau (Cymru) yn eich helpu ar eich taith gaffael. Nid oes unrhyw ymrwymiad i ddefnyddio gwasanaethau CHIC ar ôl ymaelodi, ond mwyaf yn y byd y byddwch yn defnyddio ein set o ddatrysiadau, mwyaf yn y byd y byddwch yn ei arbed.
- Mae ein Pennaeth Gwasanaethau Aelodau, sy’n gweithio o Gymru, yn rhoi un man cyswllt i aelodau.
- Trwy ein gwasanaeth wedi ei reoli rydym yn darparu cefnogaeth eang trwy gydol y broses gaffael, gan gynnwys gwasanaethau aelodau dynodedig a chefnogaeth i reoli cadwyn gyflenwi. Ar ôl i gontractau gael eu dyfarnu, rydym yn parhau i gynnig cefnogaeth trwy roi cyngor parhaus a rhoi adroddiadau i’n haelodau.
- Rydym yn rheoli catalogau prisiau cystadleuol.
- Gallwn ddarparu Adroddiadau Trafodion Aelod ac Adroddiadau Dadansoddwyr Cost y Diwydiant i’r aelodau sydd â chontractau byw.
- Mae ein helusen CHIP (Community and Housing Investment in People) yn cael ei chefnogi gan CHIC i sicrhau bod manteision gwerth cymdeithasol yn cael eu cyflawni o ganlyniad uniongyrchol i weithgareddau rheoli asedau a chaffael CHIC.
Buddion
Jackie Leonard, Pennaeth Gwasanaethau Aelodau (Cymru), yn disgrifio’r buddion CHIC i gymdeithasau tai Cymru isod.
"Rydym yn pontio’r bwlch rhwng meddwl yn strategol a chyflawni’n weithredol, gan gynnig arbenigedd rheoli asedau, caffael wedi ei reoli’n llawn, cefnogaeth ymarferol i aelodau, cyswllt penodol â’r gadwyn gyflenwi a chefnogaeth fasnachol".
Trwy ein gwybodaeth a’n profiad o Reoli Asedau rydym yn gallu deall beth mae cymdeithasau tai yn ceisio ei gyflawni yn rhwydd a thrwy weithio’n agos gyda nhw gallwn helpu i gyflawni caffael effeithlon a datrysiadau contract".Canfyddwch pam y penderfynodd CHIC ddod yn un o aelodau partner masnachol CHC yn y blog yma.
Mae Communities & Housing Investment Consortium (CHIC) yn gonsortiwm caffael a rheoli asedau sy’n eiddo i’w aelodau, sy’n sicrhau effeithlonrwydd a gwerth cymdeithasol i’w aelodau.
Siaradwch i: Jackie Leonard, Pennaeth Gwasanaethau Aelodau (Cymru)
jleonard@chicltd.co.uk
Other Commercial Members
Barcud Shared Services
Archwiliad mewnol, caffael, rheoli risg, adolygiadau llywodraethu ac ymgynghoriaeth mewn ystod eang o feysydd
Siaradwch i: Nigel Ireland, Prif Weithredwyr
Centrus
Cydnabyddir Centrus yn eang fel y prif ymgynghorydd trysori a chyllid corfforaethol i’r sector tai fforddiadwy yng Nghymru ac Lloegr. Maent yn darparu cyngor a buddsoddiadau ariannol i’r prosiectau, y cwmnïau a’r asedau sy’n bwysig i bobl, cymunedau a’r amgylchedd.
Siaradwch i: Paul Stevens, Rheolwr Gyfarwyddwr
Cubed Tax
Arbenigwr Treth y Trydydd Sector
Siaradwch i: Dan Guy, Cyfarwyddwr
Danske Bank
Bancio: Cyfleusterau credyd cylchol a dyled cyfnod
Siaradwch i: Terri McCullagh, Cyfarwyddwr Perthynas, Tai Cymdeithasol
E.ON Green Funding Solutions
Effeithiolrwydd ynni ac ôl-osod
Siaradwch i: Cerys Williams, Rheolwr Datblygu Busnes ar gyfer Cymru
Gallagher
Mae Gallagher yn gynghorydd arbenigol sy'n darparu gwasanaethau risg, yswiriant ac ymgynghori.
Siaradwch i: Jill Jones, Pennaeth Tai
Hugh James
Cwmni gwasanaeth llawn sy'n darparu gwasanaethau cyfreithiol arbenigol i ystod eang o gleientiaid, gan gynnwys cymdeithasau tai, sefydliadau sector cyhoeddus, cwmnïau eiddo, darparwyr cyfleustodau, banciau, busnesau, sefydliadau addysg ac unigolion.
Siaradwch i: Emma Poole, Pennaeth Perthynas â Chleientiaid
Insight HRC
Ymgynghoriaeth Adnoddau Dynol ac Arweinyddiaeth
Siaradwch i: Pip Gwynn, Rheolwr gyfarwyddwr
Lovell
Darparwr blaenllaw o dai partneriaeth a thai marchnad agored
Siaradwch i: Gemma Clisett, Cyfarwyddwr partneriaethau rhanbarthol
Openreach
Isadeiledd rhwydwaith digidol: Safleoedd newydd ac Unedau Aml-annedd (MDU)
Siaradwch i: Lewis Evans, Rheolwr Rhagolygon Safleoedd Newydd a Phartneriaeth Ranbarthol (Cymru a'r De-orllewin)
Plentific
Meddalwedd Cynnal a Chadw a Rheoli Eiddo
Siaradwch i: Julia Savas-Butz, Cyfarwyddwr Brand Byd-eang
PureCyber
Seiberddiogelwch
Siaradwch i: Ceri Maund, Prif Swyddog Marchnata
Quantum Advisory
Ymgynghoriaeth gwasanaethau ariannol annibynnol sy’n darparu gwasanaethau pensiwn a buddion gweithwyr i gyflogwyr a’u staff.
Siaradwch i: Stuart Price, Partner ac actiwari
Savills
Darparydd byd-eang eiddo tirog preswyl a masnachol yn cynnig gwasanaethau ymgynghori, rheoli a gweithrediadol.
Siaradwch i: James Tarrant, Cyfarwyddwr, Savills Financial Consultant
Utility Aid
Mae Utility Aid yn helpu’r sector elusennol a di-elw i gadw costau ynni i lawr, drwy adennill gordaliadau, rheoli gweinyddiaeth a chynghori ar bob mater sy’n gysylltiedig ag ynni.
Siaradwch i: Laura Peel, Swyddog Cyswllt Partneriaid