Effaith siarcod benthyca ar y sector tai cymdeithasol yng Nghymru
Mae’r cynnydd mewn costau byw yn codi braw ar y rhan fwyaf o bobl a gwyddom o brofiad hallt y bydd benthycwyr anghyfreithlon – a elwir fel arfer yn siarcod benthyca – yn edrych am gyfleoedd i fanteisio ar bobl yn eu hadegau o argyfwng. Mae Liz Emmons o Stop Loan Sharks Wales yn esbonio.
Yn ôl yn 2008 fe wnaethom sefydlu Uned Benthyca Anghyfreithlon Cymru, gyda’r diben o ddod â benthycwyr anghyfreithlon - neu siarcod benthyca – o flaen eu gwell, a chefnogi a diogelu eu ‘cwsmeriaid’. ‘Siarc benthyca’ yw unrhyw un sy’n benthyca arian heb yr awdurdodiad sydd ei angen yn ôl Deddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000. Mae’n ofynnol i fanciau, cymdeithasau adeiladu, undebau credyd a ffynonellau cyfreithiol eraill o fenthyca i gofrestru a dangos bod eu gwasanaethau yn addas i gadw eu statws benthyca cyfreithlon.
Ni fydd gan fenthycwyr anghyfreithlon broses gwynion ac ni fyddant chwaith yn rhoi ysbaid i helpu pobl i reoli ac ad-dalu dyledion ac wrth gwrs nid yw’r llog neu’r swm fydd yn rhaid ei ad-dalu yn glir ar y dechrau (os o gwbl). Maent yn dod ym mhob math a maint, ac yn gweithredu ym mhob cymuned yng Nghymru. Wrth gwrs mae rhai sy’n gweithredu yn debyg i gymeriadau operâu sebon, ond mae rhai yn llawer mwy soffistigedig wrth adnabod a thargedu eu dioddefwyr – a menywod yw llawer ohonynt.
Clywn lawer am baratoi i bwrpas yng nghyd-destun troseddau eraill, ond mae’n digwydd yn y maes hwn hefyd: mae benthycwyr yn meithrin hyder ac ymdeimlad ffals o deyrngarwch yn eu dioddefwyr cyn mynd atynt o ddifri i’w hecsbloetio.
“Unrhyw gyfle y gallaf fenthyg 25. Mae diwrnod chwaraeon XX yfory ac mae angen cinio pecyn a sanau a threnars newydd, anfonwch neges i adael i mi wybod naill ffordd neu’r llall.”
Roedd hon yn neges destun gan fam ifanc. Pwy na all gydymdeimlo gyda’r teimlad o anobaith o beidio medru fforddio rhoi’r hyn mae eu plentyn ei angen a’r gobaith o fedru gwneud rhywbeth? Ond yn gyflym iawn mae’r £25 hwnnw yn dyblu ac yn dal ati i ddyblu – ac mae teimlad gobaith y dioddefwyr yn dod yn drallod, yn wyneb bygythiadau trais yn eu herbyn, eu teuluoedd a’r plentyn yr oedd eisiau ei warchod a darparu ar ei gyfer.
Gyda chyllidebau cynyddol dyn yn wynebu pobl, a dewisiadau amhosibl rhwng pa hanfodion y gallant ei fforddio, rydym hyd yn oed yn fwy pryderus y bydd benthycwyr anghyfreithlon yn eu hecsbloetio.
Clywsom yn ddiweddar gan swyddog cymorth tenantiaeth mewn cymdeithas tai yng ngogledd Cymru oedd yn gweithio gyda theulu oedd wedi mynd i ôl-ddyledion rhent ar ôl i un rhiant golli ei swydd ac oriau y rhiant arall wedi gostwng. Yn eu sgyrsiau, soniodd y tenant ei bod wedi benthyca arian gan ‘gyfaill’ i brynu peiriant golchi ar ôl i’r hen un dorri. Mewn ymateb i ychydig yn fwy o gwestiynau, daeth yn amlwg fod y ‘cyfaill’ yn disgwyl taliadau llog sylweddol ac yn codi ofn ar y tenant pan na fedrai dalu.
Roedd y ‘cyfaill’ yn siarc benthyca a chysylltodd y swyddog cymorth tenantiaeth ag Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru a allodd gynorthwyo a diogelu’r tenant tra’r oeddt yn dechrau’r broses a arweiniodd at erlyn y siarc benthyca.
Gwyddom o brofiad fod y rhai yn y sector tai cymdeithasol sy’n gweithio’n agos gyda thenantiaid yn pryderu am eu lles – ac felly mae gennym gais i’w wneud. I’n helpu i atal yr argyfwng costau byw rhag dod yn drychineb, gofynnwn i staff cymdeithasau tai gysylltu â ni os oes gennych bryderon fod siarc benthyca yn ecsbloetio pobl yn eich ardal. Rydym yn hapus i drafod eich pryderon gyda chi a gweithio gyda chi a’ch tenantiaid. Diogelwch a sicrwydd y dioddefwr neu’r benthycydd yw’r peth pwysicaf yn y ffordd y gweithiwn, a gall adroddiadau fod yn ddi-enw.
Mae gennym boster goleuadau traffig a phecyn cymorth gyda mwy o wybodaeth ar ba arwyddion i gadw golwg amdanynt. Gallwn hefyd ddarparu hyfforddiant ymwybyddiaeth am ddim i’ch timau, neu dreulio amser yn gweld ein sesiwn ddiweddar ar ymwybyddiaeth o siarcod benthyca. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth.
Llinell frys: 0300 123 33 11