Jump to content

Broadleaf professional

-

Gwasanaethau

    • Tanysgrifiad meddalwedd seiliedig ar y cwmwl sy’n barod i fynd (rheoli cwynion/rheoli incwm/rheoli achos)
    • Cyfluniadau pwrpasol o’n cynnyrch ar y silff i weddu anghenion eich sefydliad.
    • Amrywiaeth o Microsoft PowerApps a adeiladwyd ar gyfer tai cymdeithasol y gellir eu defnyddio o fewn Microsoft Teams (mae hyn yn cynnwys y modiwlau a enwir uchod).
    • Ymgynghori a chefnogi gyda newid gwasanaeth. Gweithiwn gyda chi i adnabod, dylunio a gweithredu newid gwasanaeth cymdeithasol ymwybodol, yn cynnwys y meddalwedd yr ydych ei angen i gefnogi modelau gweithredu newydd.
    • Trwyddedu meddalwedd, yn cynnwys Microsoft Office, Windows, ac yn y blaen.

Buddion

Oliver Florence, cyfarwyddwr cynnyrch, yn disgrifio’r buddion Broadleaf Professional i gymdeithasau tai Cymru isod.

“Mae gennym brofiad helaeth o adeiladu a gweithredu meddalwedd a gwasanaethau sy’n sicrhau effaith gymdeithasol gadarnhaol.

“Mae ein tîm wedi gweithio mewn meddalwedd tai cymdeithasol yn ogystal ag atal digartrefedd, ac fel rhan o dîm a adeiladodd a darparu budd-daliadau nawdd cymdeithasol newydd yr Alban ar anabledd.

“Rydym yn dîm bach sy’n canolbwyntio ar ddarparu gwerth cymdeithasol. Rydym yn gweithio’n gyflym ac yn darparu ar amser. Mae aelodau ein tîm yn fwriadol aml-sgil; yr un person sy’n gweithio gyda chi i ddeall yr hyn y byddwch ei angen yn adeiladu a chyflawni hynny drosoch – nid oes dim yn cael ei golli wrth drosi a gall eich timau adeiladu perthynas gyda rhywun y gallant ddibynnu arnynt.

“Rydym yn ffynnu ar gydweithio gadarnhaol a rydym eisiau ehangu ein portffolio cynnyrch drwy weithio wrth ochr darparwyr tai i sicrhau fod ganddynt lais wrth ddylunio’r systemau a ddefnyddiant. Mae hyn yn golygu y gall darparwyr tai gael mynediad i’n cynnyrch presennol, ond hefyd weithio gyda ni i greu cynnyrch newydd i’w helpu i gadw’n gydwastad gydag amgylchedd gwaith sy’n newid drwy’r amser.

“Mae gennym ardystiad fel Microsoft Partners a gallwn gynnig mynediad i drwyddedau a chynnyrch Microsoft ar bris ffafriol”.

Canfyddwch pam y penderfynodd Broadleaf Professional ddod yn un o aelodau partner masnachol CHC yn y blog yma

Other Commercial Members

Barcud Shared Services

Barcud Shared Services

Siaradwch i: Nigel Ireland, Prif Weithredwyr

Gallagher

Gallagher

Mae Gallagher yn gynghorydd arbenigol sy'n darparu gwasanaethau risg, yswiriant ac ymgynghori.

Lovell

Lovell

Siaradwch i: Gemma Clisett, Cyfarwyddwr partneriaethau rhanbarthol

Quantum Advisory

Quantum Advisory

Siaradwch i: Stuart Price, Partner ac actiwari

RLH Architectural

RLH Architectural

Siaradwch i Nick Cox, Cyfarwyddwr Masnachol