Jump to content

18 Tachwedd 2015

Cymdeithasau tai yn rhoi hwb sylweddol i economi Cymru

Dengys astudiaeth annibynnol, er hinsawdd economaidd sy'n parhau'n anodd, fod cymdeithasau tai Cymru yn dal i hybu'r economi ac iddynt gyfrannu mwy na £1bn yn uniongyrchol yn 2014/15.

Mae'r canfyddiadau a lansir heddiw (18 Tachwedd) yn rhan o adroddiad diweddaraf yr Uned Ymchwil i Economi Cymru (WERU), a gomisiynwyd gan Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC), sy'n canolbwyntio ar effaith economaidd ehangach y sector tai cymdeithasol yng Nghymru.

Dengys yr adroddiad y cadwyd 79%, neu £872.8m o'r gwariant uniongyrchol o £1.1bn yng Nghymru. Fe wnaeth cymdeithasau tai Cymru hefyd gefnogi cyfanswm allbwn o dros £2bn yn 2014/15 sy'n cynnwys gwariant uniongyrchol ac anuniongyrchol. Ymhellach, amcangyfrifir fod Gwerth Ychwanegol Gros (GVA) y sector yn £278m yn 2014/15.

Fel rhan o'r gwariant hwn, cododd cymdeithasau tai 1,923 o dai newydd fforddiadwy yn 2014/1,5, cynnydd o 4% ar nifer y cartrefi a ddarparwyd yn 2013/14. Darparwyd 517 o'r cartrefi hyn heb Grant Tai Cymdeithasol. Mae'r cyfraniad yn golygu fod y sector ar darged i gyrraedd y targed o 10,000 o gartrefi fforddiadwy ar gyfer y tymor hwn o'r Llywodraeth a nodir yn y Cytundeb Cyflenwad Tai rhwng CHC a Llywodraeth Cymru.

Fe wnaeth cymdeithasau tai Cymru wario £301m ar atgyweiriadau a chynnal a chadw yn 2014/15 (27% o wariant uniongyrchol y sector), Gwariwyd 21% pellach o wariant uniongyrchol y sector ar adeiladu a chyfanswm o £532m ar weithgareddau adfywio yn 2014/15.

Mewn llai na degawd, mae cymdeithasau tai Cymru wedi gwario tua £3bn yn economi Cymru ar adeiladu a chynnal a chadw eiddo. Fodd bynnag, dengys yr adroddiad yn glir fod effaith economaidd y sector yn mynd tu hwnt i frics a morter.

Cynyddodd cyfraniad y sector i gyflogaeth yn 2014/15, gan gadarnhau sefyllfa'r sector fel cyflogwr pwysig yng Nghymru. Caiff cyfanswm o 8,800 o bobl (cyfwerth ag amser llawn) eu cyflogi'n uniongyrchol gan y sector ac, am bob swydd uniongyrchol a ddarperir, caiff bron ddwy swydd arall eu cefnogi yn economi Cymru. Mae hyn yn gyfystyr â thua 23,000 o swyddi cyfwerth ag amser llawn yng Nghymru. Gwariwyd £7m ar gyllidebau hyfforddiant yn 2014/15 a £2.1m pellach ar gefnogaeth cyflogaeth a phrentisiaethau.

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Grŵp CHC: "Mae adroddiad eleni yn dangos ymhellach effaith cymdeithasau tai ar economi Cymru a'r cymunedau a wasanaethwn.

"Mae cymdeithasau tai yn sefydliadau annibynnol. Mae ein hannibyniaeth yn ein galluogi i dynnu miliynau o bunnoedd o gyllid preifat i mewn i ddarparu cartrefi fforddiadwy, creu swyddi ac ysgogi'r economi. Fel sector rydym yn parhau i ddangos nerth drwy ddulliau arloesol o weithio, ac mae ffigurau diweddaraf WERU yn profi fod economi Cymru yn elwa."