Jump to content

25 Ebrill 2018

Gwerthuso dysgu - heriau a chyfleoedd

Gwerthuso dysgu - heriau a chyfleoedd
Stuart Haden, Sefydlydd Storm Beach Cyf yn esbonio sut y gallwn werthuso ein dysgu yn well, a’r heriau a’r cyfleoedd a ddaw gyda hyn.


Mae gwerthuso dysgu yn aml yn rhannu barn. A ddylem dreulio'r amser a'r egni yn gwneud hynny? A allwn ni werthuso canlyniadau anniriaethol yn gywir? Os gallwch oresgyn rhai o'r heriau dilynol yna ydi, mae'n debyg ei fod yn werth chweil ei wneud. Os na, gallwch fod yn hyderus nad gwerthuso yw'r ateb yr ydych yn edrych amdano.


Yn gyntaf, dydych chi ddim yn pesgi moch drwy eu pwyso. Felly mae angen i werthuso gadarnhau neu newid eich dull gweithredu. Mae llawer o sôn am y 'ROI' bondigrybwyll, ond beth sydd tu ôl i hyn? Enillion ar Fuddsoddiad neu Enillion ar Fwriadau? Mae gan lawer o ymyriadau hyfforddiant dystiolaeth cysyniad felly gallwch neidiwch ar gwt hynny yn lle. Yn yr un modd, os oes sylfaen tystiolaeth presennol yna dilynwch y dorf. Cynhaliodd McKinsey & Co astudiaeth 10-mlynedd ar lif gyda chyfarwyddwyr blaenllaw. Rwy'n sôn am ganlyniadau hyn oherwydd datblygu perfformiad optimol a chyflwr llif yn aml yw nod y rhaglenni a redaf. Mae'n llawer pwysicach nag unrhyw beth y gallaf roi rhif arno.


Nawr eich bod wedi herio eich syniadau efallai na fydd angen i chi chwilio am y cyfleoedd dilynol. Ond ar gyfer y rhai ohonoch sy'n adnabod mwy o angen, yna efallai mai dadansoddeg fyddai'r lle cyntaf i alw ynddo. A allwch chi gasglu data, yn well byth a all rhywun arall ei wneud drosoch, gan eich galluogi i fod yn gwsmer dadansoddeg. Ffordd syml iawn i fesur newid (er yn eithaf gwrthrychol) yw rhedeg holiadur hunanasesu ar ddechrau a diwedd y rhaglen. Mae gan hyn yr effaith ddeublyg o roi adborth i'r sawl sy'n cymryd rhan. Gall Kirtpatrick neu Hamblin eich atgoffa beth i'w fesur - ymateb, dysgu, ymddygiad, effaith a threfniadaeth. Os oes angen i chi roi rhifau ar y cerdyn sgorio yna mae 'dull Sherpa' yn cynnig ffordd daclus o gyfrif ROI. Proses 5 cam syml sy'n eich helpu i asesu'r buddion a chostau cysylltiedig dysgu.


Eisiau dysgu mwy? Mae ein Cynhadledd Adnoddau Dynol a Dysgu & Datblygu ar 2 a 3 Mai. Archebwch yma