Tu Hwnt i’r Palis: Defnydd yn y Cyfamser a Chreu Lleoedd
Rhydd
Fu popeth ddim yn rhwydd ... Safle segur, ymddygiad gwrthgymdeithasol cyson a ffens balis las hir. Felly sut mae trin cornel wag ddiddefnydd yn ofod cymunedol poblogaidd heb aros blynyddoedd am adfywio llawn?
Ymunwch â Sarah Murphy o Cartrefi Conwy ar gyfer sesiwn sbotolau ymarferol ar brosiect Defnydd yn y Cyfamser Porth Gorllewinol Abergele. Mae’r ymyriad creu lle dros dro hwn mewn tref fechan ar arfordir y Gogledd wedi helpu i newid tybiaethau, cynyddu ymddiriedaeth a sbarduno cyfranogiad gan y gymuned ymhell cyn i ddatblygiad parhaol ddechrau.
Byddwch yn clywed sut y daeth safle anodd yn gyfle am newid, drwy bartneriaethau creadigol, ailddefnyddio deunyddiau a chymryd rhan yn y celfyddydau. O weithdai barddoniaeth dwyieithog a cherfio cerrig i wyliadwriaeth oddefol a gwelliannau i’r parth cyhoeddus, mae’r sesiwn yma’n ymchwilio sut y gall ymgysylltu agored ac onest, tu hwnt i ymgynghoriad symbolaidd, greu gwerth ystyrlon a pharhaus, hyd yn oed mewn gofodau dros dro.
Gyda ffocws ar fywiogrwydd canol tref, cadernid cymunedol a realaeth ymarferol adfywio graddfa fach, bydd y sesiwn yn cynnig sylwadau onest ar sicrhau cyllid, y gwersi a ddysgwyd, yr hyn a weithiodd – a beth fedrid ei wneud yn wahanol y tro nesaf.
Cynulleidfa: arweinwyr adfywio, staff datblygu a swyddogion ymgysylltu â’r gymuned sy’n dymuno ymchwilio defnydd yn y cyfamser fel arf ar gyfer trawsnewid.