Jump to content

Julia Sorribes

Cynghorydd Cyfathrebu ag Aelodau a Marchnata

Mae gan Julia gefndir mewn newyddiaduraeth a bu ganddi amrywiaeth o swyddi yn ymwneud â chyfathrebu, cyfieithu a rheoli prosiectau yn Sbaen, China a’r Deyrnas Unedig.

Hi yw’r Cynghorydd Cyfathrebu gydag Aelodau a Marchnata, ar ôl gweithio yn Cartrefi Cymunedol Cymru ers 2018 mewn swyddi gweinyddol a chefnogaeth yn gysylltiedig gyda gwasanaethau aelodau a digwyddiadau.

Mae Julia yn hyrwyddo holl ddigwyddiadau CHC, yn cydlynu cyfathrebu gydag aelodau ac yn gyfrifol am Fwletin CHC.

Gan weithio’n agos gyda Tom Spare, ein Cynghorydd Cyfathrebu, mae’n gweithredu ein strategaeth cyfathrebu, datblygu cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol a monitro perfformiad ar draws pob sianel.

Mae Julia hefyd yng ngofal gwefan a system CRM CHC, gan greu dangosfyrddau sy’n cefnogi gwneud penderfyniadau seiliedig ar dystiolaeth ar draws y sefydliad.