Jump to content

Jonathan Conway

Rheolwr Dealltwriaeth ac Ymgysylltu Aelodau

Mae Jon wedi gweithio yn y maes tai cymdeithasol ers 2001 a bu ganddo nifer o swyddi dylanwadol ym mhob rhan o’r sector.

Roedd yn flaenorol yn Arweinydd Tîm Gwasanaethau Cymunedol Cartrefi Dinas Casnewydd, a Gweithiwr Ymgysylltu â Theuluoedd ar brosiect Working Families a gyllidwyd gan y Loteri yn United Welsh. Ers 2014, bu Jon ar fwrdd elusen cydraddoldeb Tai Pawb ac ymunodd â Bwrdd CIH Cymru yn 2020.

Yn Cartrefi Cymunedol Cymru mae Jon yn gyfrifol am sicrhau fod y cynnig ar gyfer cymdeithasau tai yn berthnasol, effeithlon ac yn dderbyniol.