Jump to content

Louise Price-David

Pennaeth Gwasanaethau Aelodau a Phartneriaethau

Mae Louise wedi gweithio yn y sector elusennau a sector cyhoeddus am bron 15 mlynedd. Mae wedi arbenigo mewn creu partneriaethau cryf a gwerthfawr rhwng sefydliadau sy’n cefnogi gweledigaeth ar y cyd ar gyfer byd tecach a mwy cyfartal.

Mae Louise wedi datblygu gwasanaethau a digwyddiadau ar gyfer Chwarae Teg, prif elusen Cymru ym maes cydraddoldeb rhywedd, a’r elusen digartrefedd Llamau.

Yn Cartrefi Cymunedol Cymru mae Louise yn arwain ar greu perthnasoedd a phartneriaethau go iawn gyda’n haelodau a phartneriaid corfforaethol. Mae hefyd yn arwain ar greu digwyddiadau gwybodus ac arloesol drwy gydol y flwyddyn ar gyfer ein haelodau.

Mae Louise hefyd yn rhan o’r uwch dîm rheoli.