Jump to content

Cynhwysiant Digidol

Yn gryno

Yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru 2019-20, dywedodd 17% o denantiaid tai cymdeithasol Cymru nad ydynt yn defnyddio’r rhyngrwyd, o gymharu gyda 10% o’r boblogaeth gyffredinol. Gall allgau digidol ei gwneud yn llawer anos i gynnal cydnerthedd ariannol a gall arwain at ystod eang o anfanteision. Mae mynediad i waith, addysg, buddion, rheolaeth ariannol a gweithgareddau hamdden yn dibynnu’n gynyddol ar digidol.

Mae aelwydydd nad ydynt ar-lein yn colli arbedion o siopa a thalu ar-lein.

Caiff cyswllt gyda gwasanaethau cyhoeddus tebyg i iechyd, tai a gofal ei drin yn gynyddol drwy ddulliau digidol – yn cynnwys gwasanaethau tenantiaid cymdeithasau tai ac ymgysylltu â thenantiaid.

Mae allgau digidol yn costio’n ddrud i bobl.

Mae hyrwyddo cynhwysiant digidol yn flaenoriaeth ar gyfer cymdeithasau tai.

Cyn tymor hwn y Senedd, mae ein maniffesto Cartref yn cyflwyno cyfres o ‘ofynion’ i Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â hyn a gwnaethom nifer o ymrwymiadau i gefnogi hyn yn ein cynllun gweithredu ar gyfer y llywodraeth.

Crynodeb llawn

Mae’n flin gennym, nid oes eitemau ar gael ar hyn o bryd