Llesiant
Yn gryno
Yng Nghymru, mae 23% o’r boblogaeth yn byw mewn tlodi incwm cymharol. Canfu ymchwil diweddar gan Sefydliad Joseph Rowntree bod dros 90% o’r bobl ar Gredyd Cynhwysol yn byw heb hanfodion.
Mae cymdeithasau tai yn rhoi cefnogaeth hanfodol i denantiaid i atal caledi a chynnal eu gwytnwch ariannol.
Maent yn helpu tenantiaid bregus sydd angen taliadau wedi eu rheoli i’w landlord trwy’r system o drefniadau talu gwahanol. Mae cymdeithasau hefyd yn cynnig set o wasanaethau ychwanegol i gefnogi lles tenantiaid gan gynnwys cynlluniau iechyd meddwl a sicrwydd ynni, lliniaru caledi a hyfforddiant cyflogadwyedd.
Ein blaenoriaethau yn y maes hwn
- Dylanwadu ar systemau lesiant y Deyrnas Unedig a Chymru i sicrhau eu bod yn cefnogi tenantiaid cymdeithasau tai yn effeithiol i fod yn wydn yn ariannol ac adlewyrchu’r galw cynyddol am y gwasanaethau hyn.
Sut ydym yn datblygu’r maes hwn o’n gwaith
Rydym yn gweithio’n agos gyda chymunedau aelodau perthnasol, rhwydweithiau dan arweiniad aelodau a phartneriaid allanol pan fydd angen datblygu polisïau ac ymarfer mwy manwl. Rydym yn cynnal sesiynau gylch y bwrdd chwarterol gyda’r DWP a sesiynau sbotolau cyson ar y materion lles cyfredol, pwysig.
Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi cael dylanwad cadarnhaol ar faterion polisi llesiant trwy feysydd polisi eraill er enghraifft costau byw, digartrefedd a fforddiadwyedd.
Nid yw materion llesiant wedi eu datganoli ar y cyfan felly rydym wedi gweithio’n agos gyda phedwar ffederasiwn tai’r Deyrnas Unedig i ddylanwadu ar newid ym mholisi llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Yn CHC mae gennym weithgor cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewnol i gefnogi ein gwaith yn y maes hwn ac rydym hefyd yn gweithio’n glos gyda Llywodraeth Cymru ar ei chynllun gweithredu Cydraddoldeb Hiliol.
Gyda phwy i siarad...
Bethany Howells
Hidlo yn ôl Maes Polisi
- Y cyfan
- Cynhwysiant Digidol
- Llesiant
Mae’n flin gennym, nid oes eitemau ar gael ar hyn o bryd
Hidlo yn ôl Maes Polisi
- Y cyfan
- Cynhwysiant Digidol
- Llesiant