Jump to content

22 Mai 2024

Adnodd newydd ar gyfer tenantiaid: beth i’w wneud os nad yw eich cymdeithas tai wedi trwsio problem yn eich cartref

Adnodd newydd ar gyfer tenantiaid: beth i’w wneud os nad yw eich cymdeithas tai wedi trwsio problem yn eich cartref

Ym mis Tachwedd 2023, fe wnaethom ddweud ein bod yn datblygu adnodd ar gyfer tenantiaid i ddeall y camau y dylent eu cymryd os ydynt yn cael lleithder a llwydni yn eu cartref, a’r ffyrdd i gwyno os nad ydynt yn fodlon gyda’r gwasanaeth a gânt.

Heddiw, rydym yn lansio dalen ffeithiau newydd ar gyfer cymdeithasau tai i’w rhannu’n uniongyrchol gyda’u tenantiaid, fel rhan o’n gwaith parhaus fel sector i wella’r ffordd yr ydym yn trin lleithder a llwydni yng nghartrefi tenantiaid.

Wrth ddatblygu’r ddalen ffeithiau yma, buom yn gweithio gyda grŵp o weithwyr proffesiynol cyfathrebu ac ymgysylltu o bob rhan o’n haelodaeth i sicrhau ei fod wedi ysgrifennu mewn ffordd oedd yn cyfleu cyngor hanfodol ond hefyd yn dryloyw ac yn trafod rhai o’r pryderon a glywsant gan eu tenantiaid.

Gwnaethom hefyd weithio gyda TPAS Cymru a gofyn am adborth gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Fe wnaethom ystyried cyngor a gyhoeddwyd gan gyrff eraill – tebyg i Shelter – sydd yn anelu i helpu tenantiaid tai cymdeithasol i unioni pethau yn eu cartrefi.

Nid atal tenantiaid rhag codi pryderon yw bwriad yr adnodd hwn, ond yn hytrach roi gwybod iddynt am y llwybrau rhad ac am ddim y gallant eu dilyn os ydynt yn anhapus gyda’r gwasanaeth a gawsant gan eu cymdeithas tai. Roeddem hefyd eisiau ei gwneud yn glir fod gan denantiaid cymdeithasau tai hawliau i gael rhai materion wedi eu datrys, a sut olwg sydd ar hyn yn ymarferol.

Os ydych yn denant i gymdeithas tai ac yn bryderus am broblem yn eich cartref, rydym yn eich annog i gysylltu gyda’ch landlord cyn gynted ag sy’n bosibl.

Os oes gennych bryderon am gyngor a roddir yn y ddalen ffeithiau, cysylltwch â’ch cymdeithas tai yn uniongyrchol os gwelwch yn dda, neu anfon e-bost at comms@chcymru.org.uk.