Jump to content

17 Gorffennaf 2023

Sut mae cymdeithasau tai yn gweithio gyda chymunedau i greu gwerth cymdeithasol effeithiol a pharhaus

Sut mae cymdeithasau tai yn gweithio gyda chymunedau i greu gwerth cymdeithasol effeithiol a pharhaus

Yn y trydydd o’n cyfres o flogiau datblygu mae Bethany Howells, swyddog polisi a materion allanol CHC, yn siarad am effaith gadarnhaol cymdeithasau tai ar gymunedau ar draws Cymru drwy roi blaenoriaeth i werth cymdeithasol a gweithio gyda datblygwyr lleol trugarog a chyfrifol.

Mae bod â ffocws ar werth cymdeithasol yn golygu y gall cymdeithasau tai edrych tu hwnt i ddim ond cynnig cartrefi i sut y gallant greu cymunedau llewyrchus sy’n gwella bywydau pobl, gwella eu hiechyd a’u lles ac annog pobl leol i ganfod mwy o foddhad yn yr ardal.

I wneud hyn, mae timau’n gweithio’n agos gyda’u cymunedau – yn cynnwys tenantiaid, grwpiau cymunedol, darparwyr gwasanaeth, contractwyr ac eraill – i ddeall beth mae preswylwyr ei angen i dyfu a ffynnu. Yn achos contractwyr, mae hynny’n golygu gweithio gyda chwmnïau lleol sy’n cefnogi’r gymuned ac sydd â’u gwaith hefyd yn ychwanegu gwerth i’r economi leol.

Yng Nghymru mae gwerth cymdeithasol yn trawsnewid, yn rhannol oherwydd diwygio deddfwriaethol yn cynnwys y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael a gwaith ehangach Llywodraeth Cymru a phartneriaid tebyg i Crynodeb Adolygu Gwerth Cymdeithasol Llywodraeth Cymru a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Mae’r diwygiadau hyn yn anelu i sicrhau pan gyflwynir gwerth cymdeithasol ei fod yn ymateb i ac yn trin anghenion cymunedau.

Mae hefyd yn hanfodol y caiff effaith gymdeithasol ei diffinio a’i mesur, gan na fu sicrhau’r gwerth mwyaf am arian erioed yn bwysicach oherwydd yr argyfwng presennol mewn costau byw a’r straen gronnus ar draws gwasanaethau cyhoeddus. Mae cymdeithasau tai a’r partneriaid y gweithiant â nhw eisoes yn rhoi ystyriaeth i hyn.

Er enghraifft fe wnaeth Tai Tarian, cymdeithas tai sy’n rheoli dros 9,000 annedd yn ardal Castell-nedd Port Talbot, ddyfarnu contractau gwerth £4.9 miliwn yn 2022 i adeiladwyr a chyflenwyr – ac roedd cymalau gwerth cymdeithasol ynddynt i gyd. Roedd hyn yn sicrhau y byddai contractwyr yn rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned drwy raglen Budd Cymunedol Tai Tarian.

Mae cyllid o £44,398 a godwyd drwy’r rhaglen, sy’n annog cwmnïau sy’n gweithio gyda’r sefydliad i roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned, wedi galluogi’r gymdeithas tai i wneud llu o weithgareddau budd. Mae hyn yn cynnwys uwchraddio cyfleusterau cymunedol, rhoi cyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc leol a gwaith cyllido ar brosiectau bioamrywiaeth.

Mae prosiectau eraill wedi cynnwys sefydlu casgliad banc bwyd yn defnyddio cyfraniadau gan gontractwyr lleol.

Caiff gwerth cymdeithasol hefyd ei flaenoriaethau yn Linc Cymru yng Nghaerdydd, sy’n rheoli bron 5,000 o gartrefi. Mae’r gymdeithas tai wrthi’n datblygu fframwaith i gynyddu adenilliad cymdeithasol i’r eithaf ar bob buddsoddiad, meithrin cymunedau a gwella llesiant economaidd, amgylcheddol a diwylliannol tenantiaid, preswylwyr a chymunedau o ddiddordeb.

Mae Linc yn cyflwyno gwerth cymdeithasol ar y cam tendr, i sicrhau y caiff flaenoriaeth mewn unrhyw waith parhaus a gan unrhyw gontractwyr y maent yn gweithio gyda nhw.

Yn ystod eu tendrau, maent yn gofyn cwestiynau seiliedig ar werth cymdeithasol ac yn amlinellu eu polisi gwerth cymdeithasol fel sefydliad, ynghyd ag unrhyw ofynion contractwyr.

Fel rhan o hyn mae tîm ymgysylltu cymunedol Linc wedi cydweithio gyda chontractwyr a phartneriaid yng Nghwrt Bill Harry, Blaenau Gwent, sydd wedi ei adnewyddu i gefnogi tenantiaid, preswylwyr ac aelodau’r gymuned i greu gardd gymunedol a gofod tyfu ar dir diffaith.

Gan ychwanegu at y gwerth cymdeithasol, cyfrannodd WK Plasterers o Bontypridd werth tua £2,500 o ddeunyddiau ac adnoddau eraill ar gyfer y prosiect hwn, tra gwirfoddolodd staff o’r Gwasanaeth Prawf 302 awr.

Mae Linc hefyd wedi gweithio mewn partneriaeth gyda Wills Construction i ddarparu offer diogelu personol i Jay, 16 oed sydd newydd ddechrau prentisiaeth plymio gyda’r cwmni. Bydd Willis a Shelly Leonard, swyddog adfywio cymunedol Linc, hefyd yn rhoi mentora un-i-un i Jay i’w gefnogi wrth iddo gwblhau ei brentisiaeth a gweithio tuag at yrfa werth chweil.

Drwy ymwreiddio gwerth cymdeithasol yn eu holl waith, mae cymdeithasau tai yn sicrhau eu bod yn creu newid ystyrlon ac sy’n parhau’n hir o fewn cymunedau sy’n cyfoethogi bywydau pobl.

Ar gyfer ymholiadau’r cyfryngau anfonwch e-bost at media@chcymru.org.uk