Jump to content

Deall y Ddeddf Diwygio Lesddaliad a Rhydd-ddaliad: Pa effaith a gaiff ar eich penderfyniadau masnachol?

Medi 16, 2025 @ 2:00yh
Pris Aelod

Rhydd

Ymunwch â ni am weminar hanfodol gyda Rebecca Rees, arbenigwr blaenllaw a Phartner yn Nhîm Tai Cymdeithasol Hugh James, fydd yn dadansoddi’r newidiadau arfaethedig i berchnogaeth lesddaliad yn sgil Deddf Diwygio Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 a sut y byddant yn effeithio ar eich penderfyniadau a gwerth asedau. Mae rhai o’r newidiadau mewn grym eisoes ond mae’r rhai mwyaf sylweddol (diddymu gwerth priodas, newidiadau i gyfnod a dull prisio adnewyddu a mesurau diogelu ychwanegol yng nghyswllt taliadau gwasanaeth) angen deddfwriaeth eilaidd cyn eu gweithredu. Byddwn yn trafod beth fydd eu heffaith debygol unwaith y cyrhaeddant. Byddwch yn dysgu’r newidiadau allweddol sy’n effeithio ar eich sefydliad (fel yr ydym yn eu hadnabod ar hyn o bryd), y goblygiadau ar gyfer eich penderfyniadau ar fuddsoddi a datblygu, adeiladu ymwybyddiaeth o’r ystyriaethau strategol a chamau ymarferol i leihau risg a diogelu eich asedau ar gyfer y dyfodol. Fel rhan o’n cyfres barhaus i helpu gwneuthurwyr penderfyniadau i dyfu eu hymwybyddiaeth fasnachol, mae’r sesiwn yma yn ddelfrydol ar gyfer mynychwyr ar bob lefel, yn cynnwys aelodau bwrdd i ddeall yn well sut mae’r maes hwn o’r gyfraith yn datblygu a’r effaith y gallwch ei ddisgwyl ar weithgareddau eich sefydliad.