Deall AI
Mae’n hanfodol cael dealltwriaeth gadarn a chyfeiriad clir er mwyn cadw i fyny gyda chyflymder datblygiadau newydd o fewn AI.
Dyna pam i ni uno gyda Promo Cymru i gynnig dau gwrs hyfforddi hanfodol.
Dim ond 20 lle ar gael ar gyfer pob diwrnod.
21 Gorffennaf, 10am-1pm (ar-lein)
Mae’r cwrs hwn yn rhoi sylw i’r sylfeini (beth yw AI a sut mae’n gweithio), lefel mynediad ac offer AI ac enghreifftiau o sut y defnyddir AI yn y sector tai. Mae hefyd yn rhoi cyfle i feddwl sut y gallai AI lunio dyfodol eich sefydliad.
AI ar gyfer Arweinwyr: AI ar gyfer Cymdeithasau Tai
Mae'r hyffordiant hwn ar gyfer cymdeithasau tai yn unig. Mae 20 o leoedd ar gael.
£264
29 Gorffennaf, 10am-1pm (ar-lein)
Mae’r sesiwn yn trafod polisi, llywodraethiant a strategaeth. mae’n edrych ar bolisïau ymarferol ar ddefnyddio AI, mabwysiadu AI ar draws y sefydliad, ystyriaethau a risgiau moesegol a datblygu a chyfathrebu strategaeth gyfrifol ar AI sy’n gydnaws â’ch cenhadaeth a’ch gwerthoedd.
AI ar gyfer Arweinwyr: Polisi, Llywodraethiant a Strategaeth
Mae'r hyfforddiant hwn ar gyfer cymdeithasau tai yn unig. Mae 20 o leoedd ar gael.
£264
Mae’r sesiynau hyn ar gyfer:
- Uwch arweinwyr, ymddiriedolwyr ac aelodau bwrdd sydd eisiau deall yn well pa gyfleoedd y mae AI yn eu rhoi.
- Arweinwyr digidol, arweinwyr cyfathrebu, rheolwyr gwasanaeth neu aelodau eraill o staff cymdeithasau tai sydd, p’un ai’n ffurfiol neu anffurfiol, â rhan wrth lunio cyfeiriad digidol.