Jump to content

Meddwl yn strategol am AI

Diagnosteg Strategol a Map Ffordd Tactegol


Cafodd Diagnostig Strategol a map trywydd Tactegol FUZA ei gynllunio i helpu cymdeithasau tai yng Nghymru i ddynodi “enillion cyflym” lleol, asesu pa mor barod yw eu sefydliad ar gyfer AI a llywio strategaeth AI ar y cyd ar gyfer sector tai Cymru.

Bydd Guy Marshall a James Haliwell, sy’n arbenigwyr mewn AI, yn edrych yn annibynnol ar ddiwylliant, data a risgiau rheoleiddiol. 

Caiff y canfyddiadau (di-enw) hefyd eu bwydo i strategaeth AI ehangach CHC, gan ddynodi lle gall cymdeithasau tai Cymru gydweithio i arbed costau a rhannu adnoddau a sicrhau gwell canlyniadau i breswylwyr.

Bydd y gwasanaeth hwn ar gael o fis Gorffennaf 2026.
 

Photo of AI expert Guy Marshall

Cofrestru eich diddordeb

 Cysylltwch ag Asha (asha@fuza.co.uk)

Yr hyn a roddwch i mewn


Bydd angen i aelodau o’ch timau gweithredol, llywodraethu ac TG/Data gymryd rhan mewn cyfres o gyfweliadau, rhai ar y safle (yn eich swyddfeydd) a rhai o bell. Bydd angen mynediad hefyd at ddogfennaeth bresennol ar strategaeth a pholisïau. Mae’r broses hon wedi’i chynllunio i fod yn ddidrafferth i’ch tîm ac i roi mewnwelediad gwerthfawr i’ch arweinyddiaeth.

Y gost i bob cymdeithas yw £9,000 + TAW

FUZA logo

Yr hyn a gewch


Bydd pob aelod sy’n cymryd rhan yn derbyn Pecyn Diagnostig Strategol yn cynnwys:
 

  • Map Gwres Aeddfedrwydd AI: Asesiad gweledol o ble’r ydych arni o gymharu gyda meincnodau’r sector
     
  • Y Rhestr “Enillion Rhwydd”: 3-5 ymyriad AI ar unwaith a all arbed amser neu arian o fewn 6 mis
     
  • Dadansoddiad o’r Bwlch Rheoleiddiol: Dynodi unrhyw risgiau data, technoleg neu lywodraethiant AI
     
  • Briffiad ar y Cyd: Crynodeb o sut mae eich anghenion yn gydnaws ag aelodau eraill CHC gan ddangos lle gallai cydweithio uniongyrchol neu rannu llyfrgelloedd fod o fudd i bawb.