Jump to content

Asesu eich parodrwydd ar gyfer AI

Teclyn parodrwydd AI am ddim


Mae Ffederasiwn Cymdeithasau Tai yr Alban (SFHA), mewn partneriaeth ag Altair, wedi datblygu Teclyn Parodrwydd AI, asesiad digidol a gynlluniwyd i helpu sefydliadau i werthuso pa mor barod ydynt ar gyfer mabwysiadu AI cyffredinol. 

Wedi’i adeiladu fel ap SaaS, mae’n fan dechrau ymarferol ac wedi ei strwythuro ar gyfer cymdeithasau tai ac aelodau eraill i ddeall eu sefyllfa bresennol a chynllunio’r camau nesaf.

The image shows the logos for the Scottish Federation of Housing Associations (SFHA) and Altair Ltd

Sut mae’n gweithio


Mae defnyddwyr yn ateb 17 cwestiwn cyflym ar draws pedwar piler allweddol:
 

  1. Awydd a Dealltwriaeth
     
  2. Defnydd ac Effaith
     
  3. Strategaeth a Llywodraethiant
     
  4. Data a Systemau
     

Ar ôl ei gwblhau, mae’r teclyn yn rhoi:
 

  1. Sgôr canran wedi’i ddadansoddi yn ôl piler
     
  2. Lefel parodrwydd cyffredinol (Dechreuwr, Datblygol, Uwch)
     
  3. Adroddiad PDF ar gyfer trafodaeth fewnol gyda byrddau neu dimau arweinyddiaeth
     
  4. Argymhellion a chamau gweithredu wedi’u teilwra i wella galluedd AI

Pam ei fod yn bwysig

 

  • Mae’n cynnig gwaelodlin ar gyfer mabwysiadu AI ac yn dangos bylchau mewn llywodraethiant, strategaeth a pharodrwydd technegol
     
  • Mae’n galluogi sefydliadau i gymharu canlyniadau ar draws timau a meincnodi cynnydd
     
  • Mae’n cefnogi penderfyniadau gwybodus, moesegol a chynaliadwy yn gydnaws gyda gwerthoedd eich sefydliad.

Beth sy’n digwydd gyda’ch data

 

  • Caiff yr wybodaeth ddienw a roddwch ei hychwanegu at y data presennol i ddynodi’r tueddiadau ehangach ar ddefnyddio AI ar draws y Deyrnas Unedig.
     
  • Caiff cyfrinachedd a chydymffurfiaeth â GDPR ei warantu drwy gytundeb rhannu data rhwng SFHA a CHC.