Jump to content

AI ar gyfer Arweinwyr: Polisi, Llywodraethiant a Strategaeth

Gorffennaf 29, 2026 @ 10:00yb
Hyfforddiant 3 hrs Online
Pris Aelod

£264

Mae AI yn symud yn gyflym ac yn newid y ffordd y gweithiwn. I lawer o gymdeithasau tai, yr her nawr yw sicrhau y caiff AI ei fabwysiadu a’i ymestyn mewn ffordd sy’n gyfrifol, priodol a sy’n iawn ar gyfer eich pobl.

Mae’r sesiwn yma ar gyfer arweinwyr sy’n barod i symud tu hwnt i’r sylfeini a meddwl o ddifri sut olwg sydd ar ymagwedd ystyriol, dan arweiniad gwerthoedd at AI.

Bydd ProMo Cymru yn gweithio drwy’r heriau a’r penderfyniadau allweddol sy’n wynebu arweinwyr cymdeithasau tai heddiw, o bolisi a llywodraethiant hyd at ddiwylliant staff a gweledigaeth strategol.

Drwy’r modiwl hwn, byddwn yn rhoi sylw i:

  • Ysgrifennu polisïau clir ac ymarferol ar ddefnyddio AI sy’n gweithio i’ch sefydliad
  • Cefnogi eich staff a meithrin hyder mewn AI ar draws eich timau
  • Dynodi a rheoli ystyriaethau moesegol a risgiau mabwysiadu AI
  • Datblygu a chyfathrebu strategaeth AI gyfrifol sy’n gydnaws â’ch cenhadaeth a’ch gwerthoedd

Cynlluniwyd y sesiwn yma ar gyfer:

  • Uwch Arweinwyr, Ymddiriedolwyr ac Aelodau Bwrdd sydd eisiau deall yn well y cyfleoedd y mae AI yn eu cyflwyno.
  • Arweinwyr digidol, arweinwyr cyfathrebu, rheolwyr gwasanaeth neu aelodau eraill o staff cymdeithasau tai sydd, p’un ai’n ffurfiol neu’n anffurfiol, yn chwarae rhan wrth lunio cyfeiriad strategol.
Promo Cymru logo