Jump to content

AI ar gyfer Arweinwyr: AI ar gyfer Cymdeithasau Tai

Gorffennaf 21, 2026 @ 10:00yb
Hyfforddiant 3hrs Online
Pris Aelod

£264

Mae deallusrwydd artiffisial (AI) yn symud yn gyflym ac yn newid y ffordd y gweithiwn. Ar gyfer cymdeithasau tai, y cwestiwn bellach yw sut i’w ddefnyddio ac nid os byddwch yn ei ddefnyddio ai peidio.

Yn y sesiwn ymarferol hon bydd ProMo Cymru yn eich cyflwyno i’r offer AI sydd eisoes yn newid sut mae sefydliadau yn gweithio a’ch helpu i ystyried lle gallent wneud gwahaniaeth go iawn yn eich sefydliad chi.

Gan ddefnyddio enghreifftiau go iawn o’r sector tai, byddwn yn torri drwy’r sŵn ac yn canolbwyntio ar yr hyn sy’n wirioneddol ddefnyddiol.

Yn y modiwl hwn, byddwn yn rhoi sylw i:

  • Beth yw AI a sylfeini sut mae’n gweithio
  • Offer AI lefel mynediad, yn cynnwys ChatGPT ac Otter.ai
  • Offer mwy datblygedig tebyg i NotebookLM, Claude a Firebase Studio
  • Enghreifftiau byd go iawn o’r defnydd o AI yn y sector tai
  • Edrych i’r dyfodol: sut fedrai AI lunio dyfodol eich sefydliad chi?

Cynlluniwyd y sesiwn yma ar gyfer:

  • Uwch Arweinwyr, Ymddiriedolwyr ac Aelodau Bwrdd sydd eisiau deall yn well y cyfleoedd y mae AI yn eu rhoi
  • Arweinwyr digidol, arweinwyr cyfathrebu, rheolwyr gwasanaeth neu aelodau eraill o staff cymdeithasau tai sydd, naill ai’n ffurfiol neu anffurfiol, yn chwarae rhan wrth lunio cyfeiriad digidol.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn polisi, llywodraethiant a strategaeth AI?

Rydym yn cynnal ail fodiwl ar sut y gall cymdeithasau tai fabwysiadu AI yn gyfrifol, mewn ffordd sy’n cefnogi staff, yn gydnaws gyda gwerthoedd ac yn cryfhau eu cenhadaeth.

Er mwyn sicrhau ansawdd ac ymgysylltiad, bydd uchafswm o 20 o gyfranogwyr ym mhob carfan hyfforddi.

Logo for Promo Cymru