Jump to content

Offer cymorth ac addasiadau

Yn gryno

Mae offer cymorth ac addasiadau yn helpu pobl i aros mor annibynnol ag sydd modd yn eu cartrefi eu hunain. O ganllawiau cydio i gawodydd mynediad gwastad i addasiadau newydd “deallus”, gall offer cymorth ac addasiadau gynnig dewis gwirioneddol i bobl am ble maent yn byw, yn agos at y bobl a’r lleoedd sydd bwysicaf iddynt.

Gall offer cymorth ac addasiadau hefyd helpu i gadw pobl yn rhydd rhag niwed. Dengys ymchwil fod addasiadau i gartrefi yn arwain at i 26% yn llai o anafiadau fod angen triniaeth feddygol (a achosir gan gwympiadau) bob blwyddyn. Yn ogystal â diogelu pobl, maent hefyd yn diogelu’r pwrs cyhoeddus ac yn arbed arian i’r GIG. Am bob £1 a werir ar addasiadau, cyn rhyddhau o ysbyty, mae arbediad o £7.50 ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.

Sut y datblygwn y maes hwn o waith

Ynghyd â dau gynrychiolydd o gymdeithasau tai, rydym yn rhan o grŵp llywio addasiadau tai sy’n cefnogi datblygu polisi a gwelliannau ymarfer i’r system offer cymorth ac addasiadau yng Nghymru.

Rydym yn cynnull gweithgor ar offer cymorth ac addasiadau er mwyn sicrhau ein bod yn cynrychioli barn a phrofiadau ein haelodau. Mae’r grŵp yn cwrdd unwaith y chwarter ac mae ganddo ddau brif ddiben:

  • Sicrhau y caiff cymdeithasau tai eu hysbysu am drafodaethau polisi byw ar offer cymorth ac addasiadau yng ngrŵp llywio addasiadau tai Llywodraeth Cymru ac yn medru bwydo eu sylwadau a’u harbenigedd i’r trafodaethau hyn
  • Rhannu gwybodaeth, arfer da a dysgu ar draws y sector a chefnogi cyfathrebu rhwng cymdeithasau tai.

Rydym hefyd yn ymgysylltu ac yn diweddaru grwpiau cyflenwi strategol perthnasol fel sy’n briodol.

Crynodeb llawn
Sarah Scotcher

Gyda phwy i siarad...

Sarah Scotcher

Mae’n flin gennym, nid oes eitemau ar gael ar hyn o bryd

Mae’n flin gennym, nid oes eitemau ar gael ar hyn o bryd