Jump to content

09 Rhagfyr 2020

Sut ydym ni’n datblygu polisi

Gweithio gyda’n gilydd i sicrhau newid

Ein cenhadaeth yw eich cefnogi chi i fod yn wych. Rydym yn gweithio i sicrhau newid ac i ddylanwadu ar yr amgylchedd yr ydych yn gweithredu ynddi.

Nid ydym yn gwneud hyn ar ein pennau ein hunain. Rydym yn ei wneud gyda chi.

Pam?

  • Pan fydd cymdeithasau tai yng Nghymru yn siarad ag un llais mae’n rym pwerus i sicrhau newid.
  • Fel corff masnach, yn gweithio ar eich rhan, daw ein hygrededd o gynrychiolaeth gref.
  • Mae cysylltu’n glos a pharhaus yn sicrhau ein bod yn ymateb i faterion fel y maent yn newid ac effaith y newid. Mae hyn yn ein helpu i ganfod cyfleoedd a risgiau ac addasu i fodloni eich anghenion.

Sut ydym ni’n gosod ein blaenoriaethau eiriolaeth?

  • Trwy siarad gydag arweinwyr cymdeithasau tai am risgiau a chyfleoedd sy’n wynebu eu sefydliad a’u blaenoriaethau ar gyfer CHC. Er enghraifft, arolwg chwe-misol a chyfweliadau gyda Phrif Weithredwyr.
  • Trwy ymgysylltu yn barhaus â’n haelodau. Er enghraifft, trwy ein Grwpiau Cyflenwi Strategol neu ymarferion ymgysylltu unwaith ac am byth fel ein rhaglen Dylanwadu i Adeiladu Dyfodol Gwell.
  • Ein hasesiad ein hunain o risg a chadw golwg ar y gorwel. Er enghraifft, archwiliad canfyddiadau, ein strategaeth materion allanol, gweithgaredd cadw golwg ar y gorwel yn fewnol.
  • Trwy herio adeiladol gan Fwrdd CHC sy’n sicrhau ein bod yn dangos cynnydd mewn cymhariaeth â’n gweledigaeth a’n cynllun corfforaethol ac yn cynrychioli aelodau yn effeithiol.

Sut allwch chi gymryd rhan?

  • Ymuno â’n Grwpiau Cyflenwi Strategol: Mae’r grwpiau hyn yn ein helpu i lunio a chyflenwi ein blaenoriaethau eiriolaeth allweddol a phrofi syniadau polisi sy’n dod i’r amlwg. Maent hefyd yn darparu gofod i chi gysylltu â chydweithwyr eraill a rhannu dealltwriaeth a’r gwersi a ddysgwyd.
  • Cymryd rhan mewn Grwpiau Gorchwyl a Gorffen: Mae ein grwpiau gorchwyl a gorffen yn cael eu comisiynu yn aml yn uniongyrchol gan staff CHC neu’n gweithredu fel is-grwpiau i’r Grwpiau Cyflenwi Strategol uchod. Maent yn cynnig gofod ar gyfer gwaith manwl i ddatblygu atebion polisi neu gynhyrchion.
  • Cynnig eich hun fel cynrychiolydd sector: mae cynrychiolwyr sector yn eistedd ar amrywiol wahanol grwpiau yn Llywodraeth Cymru. Cefnogir cynrychiolwyr sectorau gan arweinwyr CHC i ddarparu eu profiad a’u dealltwriaeth a chwarae rôl bwysig i gael barn a rhoi adroddiad yn ôl i’r aelodaeth ehangach trwy Grwpiau Cyflenwi Strategol perthnasol. Gellir dod o hyd i grwpiau presennol yma.
  • Ymateb i geisiadau am adborth: byddwn yn aml yn anfon ceisiadau am farn ar ymgynghoriadau, materion neu ddata sy’n dod i’r amlwg. Rydym yn croesawu eich cyfraniad yn fawr.

Sut ydym ni’n llunio safbwynt y sector?

  • Rydym yn gweithio gyda chi i ddeall eich barn a’r effaith y mae syniad neu bolisi yn ei gael ar eich busnes, perthynas â phartneriaid a’ch uchelgeisiau.
  • Byddwn yn ceisio dynodi consensws, pan fydd yn bodoli i ffurfio barn y sector.
  • Fodd bynnag, pan fydd y farn yn amrywiol byddwn yn llunio barn ar sail eich adborth, ein dadansoddiad ein hunain o risg (enw da, gwleidyddol ac ariannol) a pherthnasedd yr effaith ar rai o’n haelodau neu’r cyfan ohonynt. Pan fydd amrywiaeth mawr mewn barn, byddwn yn cydnabod hyn mewn unrhyw safbwynt gan CHC.

Beth allwch chi ei ddisgwyl gan CHC?

  • Byddwn yn rhoi cyfleoedd i chi i gymryd rhan mewn modd tryloyw.
  • Byddwn yn rhoi adborth o ran sut yr ydym wedi defnyddio eich barn a’ch dealltwriaeth.
  • Byddwn yn chwilio am farn amrywiaeth eang o aelodau i sicrhau ein bod yn deall effaith a photensial newid polisi ar draws cymdeithasau tai.
  • Byddwn yn sicrhau ein bod yn cysylltu ag amrywiaeth o aelodau ar draws ein grwpiau cyflenwi sefydledig a chyfleoedd eraill.
  • Pan fydd amgylchiadau yn golygu bod angen gwneud penderfyniadau yn gyflym iawn byddwn yn ymwneud â’r Prif Weithredwyr yn y lle cyntaf.
  • Mae ein Bwrdd yn ein dal i gyfrif i sicrhau ein bod yn cynrychioli'r amrywiaeth o fewn ein haelodaeth yn briodol.