Jump to content

Rheoleiddio a Llywodraethiant:

Yn gryno

Mae cymdeithasau tai yng Nghymru yn cael eu rheoleiddio gan y rheoleiddiwr tai cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru i sicrhau eu bod yn darparu cartrefi a gwasanaethau o safon uchel.

Mae gweinidogion Cymru yn chwilio am sicrwydd bod pob cymdeithas tai yn:

  • Cael ei llywodraethu’n dda; yn cael ei harwain yn effeithiol a’i rheoli’n dda gan fyrddau, swyddogion a staff, ac yn gweithio gyda thenantiaid a phartneriaid i lunio a gweithredu penderfyniadau busnes effeithiol.
  • Darparu gwasanaethau o safon uchel; ei bod yn darparu gwasanaethau sy’n bodloni anghenion a disgwyliadau pobl, ac yn cymharu’n dda ag ansawdd y gwasanaethau a ddarperir gan gymdeithasau eraill.
  • Hyfyw yn ariannol; bod ganddynt ddigon o arian i fodloni ymrwymiadau presennol a dyfodol y busnes ac yn rheoli cyllid yn effeithiol.

Gallwch gael gwybod rhagor am y fframwaith rheoleiddiol i gymdeithasau tai yma.

Mae Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC) yn gweithio gydag aelodau a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y rheoleiddio yn gymesur ac yn galluogi cymdeithasau tai unigol yn effeithiol i gyflawni eu diben craidd a’u nodau strategol.

Rydym yn cyflawni amrywiaeth o wasanaethau cefnogi i hyrwyddo gwelliant parhaus mewn llywodraethu ar draws y sector. Mae hyn yn cynnwys cod llywodraethiant i gymdeithasau tai yng Nghymru a rheolau enghreifftiol.

Mae nifer o gymdeithasau tai sy’n darparu gofal â chymorth yn cael eu harolygu hefyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Gallwch gael gwybod rhagor am AGC yma.

Ein blaenoriaethau yn y maes hwn

  • Dylanwadu ar y fframwaith rheoleiddiol newydd fel ei fod yn alluogol, strategol a chymesur.
  • Datblygu offer cymorth i hyrwyddo llywodraethiant da, gan gynnwys cod llywodraethiant CHC a modelau rheolau ar gyfer y sector.
  • Cefnogi diwylliant dysgu ar draws rheoleiddio a llywodraethu.

Sut ydym yn datblygu’r maes hwn o’n gwaith

Mae ein llywodraethiant a rheoleiddio, Prif Weithredwr, cadeiryddion ac is-gadeiryddion a’n cymunedau aelodau cyllid yn chwarae rôl allweddol wrth fod yn sail i’n gwaith yn y maes hwn. Rydym yn aelodau o Grŵp Cynghori Rheoleiddiol Llywodraeth Cymru.

Crynodeb llawn
Anna Humphreys

Gyda phwy i siarad...

Anna Humphreys
Hidlo yn ôl Maes Polisi
  • Y cyfan
  • Rheolau Enghreifftiol
  • Rheoleiddio Tai yng Nghymru
  • Cyrff rheoleiddiol eraill
  • Aelodau’r Bwrdd
Hidlo yn ôl Maes Polisi
  • Y cyfan
  • Rheolau Enghreifftiol
  • Rheoleiddio Tai yng Nghymru
  • Cyrff rheoleiddiol eraill
  • Aelodau’r Bwrdd