Cyllido Datgarboneiddio
Yn gryno
Mae gan gymdeithasau tai uchelgais i ddatgarboneiddio eu stoc ac mae adroddiad annibynnol Llywodraeth Cymru Cartrefi Gwell, Cymru Well, Byd Gwell yn argymell rhaglen deng mlynedd er mwyn gwneud hynny.
Mae ein hadroddiad ‘Cyllido Datgarboneiddio’, a gynhyrchwyd mewn partneriaeth gyda Altair, yn edrych ar oblygiadau ariannol datgarboneiddio ac yn canfod y bydd datgarboneiddio yn costio £4 biliwn i’r sector tai cymdeithasol yng Nghymru dros ddeng mlynedd.
Rydym yn cefnogi cymdeithasau tai i ddeall costau posibl ac ymchwilio sut y gellir eu cyflawni. Yn ein maniffesto Cartref galwn am becyn ysgogiad o £4 biliwn a gefnogir gan gyfuniad o gyllid cyhoeddus a phreifat i gynyddu effeithlonrwydd ynni tai cymdeithasol.
Rydym hefyd yn anelu i weld ynni yn chwarae rhan wrth gyllido datgarboneiddio, ac yn cysylltu gyda nifer o sefydliadau yn y maes hwn, yn cynnwys IPPR a’r Ymddiriedolaeth Carbon, i ymchwilio’r gwaith ymhellach.
Sut ydym yn datblygu’r maes gwaith hwn
Mae gan ein grŵp gorchwyl a gorffen cyllido datgarboneiddio rôl allweddol wrth lywio ein gwaith yn y maes hwn a dylanwadu ar Lywodraeth Cymru a gwneuthurwyr penderfyniadau eraill.
Mae gan grwpiau cyflenwi strategol cartrefi’r dyfodol a cyllid hefyd ran allweddol mewn datblygu ein gwaith yn y maes hwn.
Gyda phwy i siarad...
Bryony Haynes
Mae’n flin gennym, nid oes eitemau ar gael ar hyn o bryd
Mae’n flin gennym, nid oes eitemau ar gael ar hyn o bryd