Jump to content

03 Medi 2024

Galw holl aelodau CCC! Y Gynhadledd Cyllid a digwyddiadau arall na fyddech eisiau eu colli yr hydref hwn

Galw holl aelodau CCC! Y Gynhadledd Cyllid a digwyddiadau arall na fyddech eisiau eu colli yr hydref hwn

Fel y corff masnach ar gyfer cymdeithasau tai yng Nghymru ein cenhadaeth yw rhoi i chi, ein haelodau, yr wybodaeth, dulliau a chyfleoedd rhwydweithio rydych eu hangen i weithio’n effeithlon a chael yr effaith fwyaf posibl ar eich cymunedau a bywydau eich tenantiaid.

Yn Cartrefi Cymunedol Cymru rydym yn cynllunio digwyddiadau gan feddwl am bawb sy’n gweithio gyda neu yn y cymdeithasau tai sy’n aelodau i ni. P’un ai ydych yn aelod bwrdd, cyfarwyddwr neu aelod o staff yn gweithio mewn cyllid, datblygu neu adnoddau dynol, mae rhywbeth i chi yn ein calendr digwyddiadau.

Yn yr hydref eleni byddwn yn dod â chymdeithasau tai a phartneriaid ynghyd ar gyfer un arall o’n cynadleddau sy’n arwain y diwydiant a hefyd amrywiaeth o sesiynau rhithiol arbenigol a chyfarfodydd wyneb i wyneb diddorol.

Ar 3 a 4 Hydref caiff cynrychiolwyr y cyfle i ymchwilio materion tebyg i gyllid ar gyfer datgarboneiddio, diogelwch adeiladau, cydnerthedd a pharhad busnes yn ein Cynhadledd Cyllid 2024.

Bydd y digwyddiad hwn, sy’n dychwelyd i safle eiconig Gwesty’r Metropole yn Llandrindod am y tro cyntaf ers 2019, yn galluogi swyddogion, rheolwyr, cyfarwyddwyr ac aelodau bwrdd i gael gwybodaeth werthfawr gan siaradwyr proffil uchel fel y newyddiadurwraig a sylwedydd gwleidyddol amlwg Daisy McAndrew.

Mae’r Gynhadledd Cyllid hefyd yn gyfle gwych i chi rwydweithio a pharatoi ar gyfer ein prif ddigwyddiad, y Gynhadledd Flynyddol, yng Nghaerdydd ar 19 a 20 Tachwedd.

Yn yr wythnosau nesaf, gallwch hefyd ymuno â thrafodaethau wyneb yn wyneb yn ein Cyfarfodydd Cymunedau Aelodau, a gynlluniwyd i alluogi cydweithwyr o bob rhan o’r sector i ddysgu gan ei gilydd, rhannu arfer gorau a gofyn cwestiynau mewn gofod diogel. Mae’r cymunedau hyn yn cynnwys ystod eang o bynciau, o gyllid i ddiogelwch a chyfathrebu.

Sut mae cymryd rhan?

1. Creu eich cyfrif personol ar ein gwefan

2. Mewngofnodi

3. Mynd i’n tudalen Beth Sydd Ymlaen ac archebu lle ar y digwyddiadau o’ch dewis.

Unrhyw gwestiynau? Cysylltwch â ni

Sesiynau sbotolau rhithiol a gweminarau

Gwyddom nad yw hi bob amser yn rhwydd neilltuo amser o’r swydd ddydd i ddysgu a chadw’n gyfoes. Dyna pam ein bod wedi creu rhaglen o sesiynau ar-lein byr sy’n trafod y blaenoriaethau allweddol a meysydd o gonsyrn ar gyfer cymdeithasau tai.

Rhai o’r pynciau trafod pwysicaf y byddwn yn eu trin drwy ein sesiynau sbotolau a gweminarau yn yr wythnosau nesaf yw Safonau’r Gymraeg, y symud i’r Credyd Cynhwysol a sut i gasglu gwybodaeth gan denantiaid yn effeithiol.

Gall fod yn anodd i aelodau bwrdd fod â’r wybodaeth ddiweddaraf a chymryd rhan mewn digwyddiadau ar ben ymrwymiadau eraill. Fel meddylwyr a gwneuthurwyr penderfyniadau strategol mewn cymdeithasau tai, mae’n hanfodol iddynt gael mynediad rhwydd i wybodaeth allweddol.

Dyna pam y gwnaethom greu’r Hyb Dysgu Bwrdd a chyfres o friffiadau ar-lein byr i aelodau bwrdd ar eitemau o bwys. Bydd y sesiwn nesaf yn y gyfres yma, er enghraifft, yn gweld ein tîm polisi yn trafod y ffocws polisi a deddfwriaethol ar gyfer gweddill y chweched Senedd.

Ac a siarad am ddysgu, byddwn hefyd yn croesawu Deborah Walthorne yn ôl, a fydd yn cyflwyno ein cwrs Cyflwyniad i Gymdeithasau Tai poblogaidd ddiwedd mis Medi. Mae’r hyfforddiant hwn yn hanfodol ar gyfer unrhyw un sydd newydd ymuno â’r sector gan ei fod yn rhoi gwybodaeth sylfaenol am beth yw cymdeithas tai a sut mae’n gweithredu.

Gallwch archebu lle yn unrhyw un o’r digwyddiadau hyn yma.

Byddwn yn ychwanegu mwy o ddigwyddiadau yn yr wythnosau nesaf, felly cadwch lygad ar y dudalen Beth sydd Ymlaen a thanysgrifio ar gyfer ein Bwletin CHC bythefnosol lle gallwch greu cyfrif ar y wefan i dderbyn yr wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni yn enquiries@chcymru.org.uk