Sbotolau ar Mini-cyhoeddus: Helpu cymdeithasau tai i gasglu gwybodaeth ymgysylltiedig gan eu tenantiaid
Rhydd
Mae’n hanfodol fod cymdeithasau tai yn gwrando ar lais tenantiaid er mwyn dylunio a darparu gwasanaethau sy’n ateb anghenion tenantiaid. Fodd bynnag, gall fod yn anodd casglu cipolwg ar yr hyn yw’r anghenion hyn.
Gall y dull mini-cyhoeddus, sy’n anelu sefydlu perthnasoedd dynol syml tu allan i’r dulliau darparydd/defnyddiwr y dibynnir arnynt fel arfer, helpu i fynd i’r afael â’r her yma.
Yn y sesiwn yma bydd Rob Rowlands ac Andy Wright o engaging 4Thought yn trafod dull pragmatig sy’n gweithredu egwyddorion mini-cyhoeddus mewn ystyriaeth hirdymor syml, sy’n meithrin ymddiriedaeth ac yn caniatáu i chi ganolbwyntio ar ddatblygu datrysiadau y mae’r gymdeithas tai a hefyd eu tenantiaid yn berchen arnynt mewn awyrgylch o gydweithio.
Bydd y sesiwn yma yn apelio at wneuthurwyr penderfyniadau strategol, swyddogion tai, staff cyfranogiad tenantiaid a staff technegol.