Digwyddiadau CCC i ddysgu, rhannu a chysylltu yn 2025
Wrth i ni symud i 2025, rydym wedi paratoi rhestr o ddigwyddiadau ar-lein a wyneb i wyneb ar bynciau allweddol a gynlluniwyd i’ch helpu i aros yn wybodus a’n helpu i lunio ein gwaith polisi. Mae hefyd gyfleoedd gwych i ddysgu o enghreifftiau o arfer da yn y sector a chysylltu gyda’ch cymheiriaid.
Daliwch i ddarllen i ganfod beth sydd gennym ar y gweill.
Cynhadledd Llywodraethiant
Ar 26 a 27 Mawrth byddwn yn ymchwilio’r amgylchedd deddfwriaethol sy’n esblygu ac yn edrych tu hwnt i’r sector i ddefnyddio enghreifftiau o lwyddiant sy’n herio ein syniadau a’n hysbrydoli i barhau i adeiladu diwylliant llywodraethiant modern, effeithiol a chadarn o fewn y sector tai cymdeithasol yng Nghymru.
Os ydych yn brif weithredwr, aelod bwrdd, ymarferydd llywodraethiant neu uwch arweinydd o fewn cymdeithas tai, mae’r gynhadledd hon ar eich cyfer chi.
Mae tocynnau ar gael ar ein gwefan. Dim ond 100 lle sydd, felly peidiwch â cholli’r cyfle i fachu eich lle chi.
Pryd: 26 a 27 Mawrth
Ble: Caerdydd
Cyfres Gweminarau: Trafod Tai
Rydym wedi cydweithio gyda Shelter Cymru i gynnal cyfres gweminarau gyda Natalie Tate o Sefydliad Nationwide a phrosiect Talking about Homes Sefydliad Joseph Rowntree.
Yn y gyfres bydd Natalie yn rhannu gwybodaeth arweiniad a chyngor da i helpu sefydliadau i lunio eu cyfathrebu a sicrhau mwy o gefnogaeth gan y cyhoedd ar gyfer y gweithredu sydd ei angen i ddarparu cartrefi ansawdd da i bawb.
Pryd: 9, 15 a 21 Ionawr
Ble: Ar-lein
Sgwrs ar ddyfodol gosod rhenti
Mae Sefydliad Joseph Rowntree wedi dechrau prosiect ymchwil newydd cyffrous sy’n edrych ar fforddiadwyedd ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol. Fel rhan o’r gwaith hwn, mae’n edrych ar wahanol fodelau ar gyfer gosod rhenti ac yn defnyddio’r wybodaeth i ystyried y cydbwysedd rhwng darparu cartrefi cymdeithasol y mae angen mawr amdanynt a fforddiadwyedd.
Ym mis Ionawr bydd Darren Baxter yn cynnal dau weithdy ar-lein i amlinellu gwaith Sefydliad Joseph Rowntree hyd yma, a rhoi cyfle i aelodau CHC ychwanegu eu sylwadau ar y drafodaeth o’r ffordd orau i sicrhau cydbwysedd rhwng fforddiadwyedd a hyfywedd ariannol.
Ble: Ar-lein
Sesiynau sbotolau
Drwy’r digwyddiadau ar-lein hyn rhoddwn sylw i raglenni, cynlluniau ac arfer gorau o’r sector, ein partneriaid a thu hwnt. Yn wythnosau cyntaf 2025 byddwn yn trafod:
- Uwchsgilio tenantiaid a chymunedau gyda Adra
- Mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol
- Iechyd a lles meddwl
- Lliniaru tlodi
- Model anogaeth cymdogaeth Hafod a’u dull newydd o reoli tai
- Cynllunio a dylunio tai cymdeithasol, gyda Chomisiwn Dylunio Cymru
Mae dyddiadau ac amserau’r holl ddigwyddiadau hyn ar gael ar ein gwefan.
Dal i fyny
Dim amser i ddod i ddigwyddiad? Rydym wedi creu llyfrgell ar-lein lle gallwch weld recordiad o unrhyw sesiwn sbotolau a gweminarau y gallech fod wedi eu colli.
Cyflwyniad i Gymdeithasau Tai
Os ydych newydd ymuno â chymdeithas tai fel aelod o staff neu aelod bwrdd, mae ein cwrs Cyflwyniad i Gymdeithasau Tai yn rhoi trosolwg cadarn a dealltwriaeth lawn o rôl cymdeithasau tai wrth ddarparu tai cymdeithasol yng Nghymru.
Caiff y rhai sy’n cymryd rhan gyfle i edrych ar bwysigrwydd cynnwys tenantiaid wrth ddarparu tai cymdeithasol, dynodi’r materion ariannol a chyfreithiol allweddol sy’n wynebu cymdeithasau tai a thrafod sut y cânt eu llywodraethu.
Pryd: 23 a 24 Ionawr
Ble: Ar-lein
Sut mae cymryd rhan?
1. Creu eich cyfrif personol ar ein gwefan
2. Mewngofnodi
3. Mynd i’n tudalen Beth Sydd Ymlaen ac archebu lle ar y digwyddiadau o’ch dewis.
Unrhyw gwestiynau? Cysylltwch â ni