Dyfodol rhenti cymdeithasol (2)
Rhydd
Mae Sefydliad Joseph Rowntree wedi dechrau ar brosiect ymchwil newydd yn ymchwilio fforddiadwyedd ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol. Fel rhan o’r gwaith hwn, maent yn edrych ar wahanol fodelau ar gyfer gosod rhenti, gan ddefnyddio’r modelu yma i ystyried y cyfnewidiad rhwng darparu cartrefi cymdeithasol y mae cymaint o’u hangen a fforddiadwyedd. Ymunwch â Darren Baxter, JRF, i glywed am y gwaith hyd yma ac ychwanegu eich sylwadau ar y drafodaeth ar sut i sicrhau’r fantol orau rhwng fforddiadwyedd a hyfywedd ariannol.