Jump to content

12 Mawrth 2024

Datganiad CHC: Datganiad cymdeithasau tai Cymru ar Goncrit Awyredig Awtoclafiedig Cyfnerth (RAAC)

Datganiad CHC: Datganiad cymdeithasau tai Cymru ar Goncrit Awyredig Awtoclafiedig Cyfnerth (RAAC)

This statement was issued on March 12, 2024.

Datganiad ymatebol RAAC Mae sicrhau diogelwch tenantiaid yn flaenoriaeth ar gyfer pob cymdeithas tai yng Nghymru a maent yn ymroddedig i gefnogi’r bobl sy’n byw yn eu cartrefi.

Lle dynodir fod concrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth (RAAC) mewn cartref cymdeithas tai, bydd timau yn gweithio’n gyflym i gefnogi eu tenantiaid a sicrhau eu bod yn cael unrhyw wybodaeth newydd.

Fel y nodwyd y llynedd, bu Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC) yn gweithio gyda’i aelodau i sicrhau y caiff anheddau tai cymdeithasol eu hasesu am unrhyw risg bosibl yn gysylltiedig â RAAC. Mae’r gwaith yn parhau ac mae cymdeithasau tai yn dal i arolygu eu hanheddau i sicrhau y caiff tenantiaid Cymru eu cadw’n ddiogel.

Ar hyn o bryd nid yw’r wybodaeth a gawsom gan ein haelodau yn awgrymu fod problem eang ar draws Cymru. Rydym yn parhau i weithio gyda chymdeithasau tai i adolygu unrhyw wybodaeth newydd a roddant o arolygon ac asesiadau pellach i sicrhau fod y sector yn parhau’n wybodus ac yn dilyn arfer gorau.

Nid yw CHC a chymdeithasau tai Cymru yn bychanu faint o bryder y gall hyn fod yn ei achosi i bobl sy’n byw mewn cartrefi cymdeithasol hŷn. Dylai unrhyw un sy’n byw mewn cartref cymdeithas tai ac sy’n bryderus gysylltu yn uniongyrchol â’u landlord, gan fod ganddynt dimau yn ei lle a all helpu a chynnig cyngor ac arweiniad.