Jump to content

31 Hydref 2017

CHC yn ymateb i gynigion Llywodraeth Cymru ar dai â chymorth

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig heddiw wedi cyhoeddi y bydd ymgynghori'n dechrau ar drefniadau cyllid newydd ar gyfer tai â chymorth tymor byr a hirdymor. Mae'r cyhoeddiad yn dweud y bydd tai gwarchod a gofal ychwanegol yn parhau i gael ei gyllido drwy'r system budd-daliadau lles, gan gadw'r sefyllfa fel y mae ar hyn o bryd.

Cadarnhawyd hefyd na chaiff y cap Lwfans Tai Lleol ei weithredu yn y sector tai cymdeithasol y gwnaethom ei groesawu'r wythnos ddiwethaf. Mae'r penderfyniad yn dilyn cyhoeddi ein hadroddiad ymchwil yn dangos problemau clir gyda'r polisi.

Mae cyhoeddiad heddiw yn cynnig trefniant tairochrog ar gyfer tai â chymorth sy'n cydnabod y gwahanol fathau o dai â chymorth:

1) Tai gwarchod a thai ychwanegol (a ddynodir fel arfer ar gyfer pobl hŷn ond yn cynnwys rhai tenantiaid oedran gwaith): Bydd rhent a thaliadau gwasanaeth cymwys yn parhau i gael eu cyllido gan Fudd-dal Tai drwy'r system budd-daliadau bresennol. Yn Lloegr cyflwynir 'Rhent Gwarchod' o fis Ebrill 2020 ac ymgynghorir ar hynny dros y 12 wythnos nesaf.

2) Llety â chymorth tymor byr (ar gyfer rhai mewn argyfwng megis y rhai'n ffoi rhag trais domestig a phobl ddigartref gydag anghenion cymorth, neu help pontio tymor byrrach ar gyfer rhai gyda phroblemau camddefnyddio sylweddau neu bobl ifanc fregus, megis rhai'n gadael gofal). Lansiwyd ymgynghoriad 12 wythnos heddiw ar y cynnig i greu trefniadau cyllido lleol i gynnwys rhent a thaliadau gwasanaeth ar gyfer y math hwn o lety yn Lloegr. Mae hyn er mwyn datrys y problemau a achoswyd gan y Credyd Cynhwysol mewn tai tymor byr. Cynigir y bydd swm cyllid grant tai â chymorth tymor byr yn cael ei osod ar amcanestyniadau presennol angen y dyfodol a bydd yn parhau i roi ystyriaeth i gostau darpariaeth yn y rhan hwn o'r sector. Darperir swm cyfwerth yng Nghymru a'r Alban a mater i Lywodraethau Cymru a'r Alban fydd penderfynu ar y ffordd orau i ddyrannu cyllid.

Mae'r ddogfen ymgynghori yn cynnig cyflwyno hyn o fis Ebrill 2020. Byddwn yn gweithio'n agos gyda'n haelodau i sicrhau fod y diffiniad arfaethedig o lety tymor byr yn diwallu anghenion darparwyr a bod y trefniadau newydd yn rhoi sicrwydd a chynaliadwyedd llety tymor byr. Gallwch weld y ddogfen ymgynghori yma: Ymgynghoriad cyllido tai â chymorth.

3) Llety â chymorth hirdymor (ar gyfer rhai gydag anghenion hirdymor, megis pobl gydag anableddau dysgu neu gorfforol neu afiechyd meddwl): bydd rhent a thaliadau gwasanaeth cymwys yn parhau i gael eu cyllido gan Fudd-dal Tai drwy'r system budd-daliadau lles presennol. Fodd bynnag, bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweithio gyda'r sector a'r gwledydd datganoledig i lunio cynigion ar sut y dylid cyllido hyn yn y dyfodol, o gofio am y cynlluniau i ddod â budd-dal tai i ben o 2022.

Wrth ymateb i gyhoeddiad heddiw dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru:

"Rydym yn croesawu'r cadarnhad y bydd tai gwarchod a gofal ychwanegol yn parhau i gael eu cyllido gan y system budd-daliadau lles. Mae angen i ni sicrhau yn awr y caiff llety â chymorth tymor byr a hirdymor ei gyllido'n ddigonol i gefnogi'r cymorth a'r llety sydd cymaint ei angen ar gyfer pobl fregus o oedran gwaith. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a'n haelodau i sicrhau fod polisïau datganoledig, megis rhent, yn cael eu hystyried wrth i'r cynigion hyn ddatblygu."