Jump to content

Cyflogadwyedd

Cyflwyniad ymchwil

Mae pob cymdeithas tai yng Nghymru yn cyfrannu at economi Cymru drwy fuddsoddiad cymunedol ac fel cyflogwyr lleol allweddol.

Mae cymdeithasau tai hefyd yn dod ag ystod o gyfleoedd ynghyd, a phartneriaid sy’n rhoi cefnogaeth ychwanegol i bobl, i helpu tenantiaid gael mynediad i gyflogaeth ansawdd da a chynaliadwy, gyda rhai cymdeithasau tai hefyd yn rhoi adnoddau i helpu tenantiaid i ddatblygu eu sgiliau a chael mynediad i hyfforddiant a chyngor.

I gyfrannu astudiaeth achos neu adnodd i’r adran hon, anfonwch e-bost at bethany-howells@chcymru.org.uk os gwelwch yn dda.

Astudiaethau achos

Hybu potensial drwy weithdai sgiliau a hyder - Grŵp Cartrefi Cymunedol Cynon Taf

Derbyniodd Grŵp Cartrefi Cymunedol Cynon Taf dros £275,000 o gronfa cynhwysiant egnïol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ar gyfer dau brosiect cyflogadwyedd tenantiaid.

Cafodd y ‘prosiect posibl’ ei lansio ar 1 Gorffennaf 2022, a lansiwyd prosiect cymunedol yn ddiweddarach ar 1 Medi.

Nod y ddau gynllun yw helpu tenantiaid a phobl 25 oed a throsodd yn y gymuned leol sy’n dymuno gwella eu sgiliau, gyda’r nod o symud i gyflogaeth. Mae swyddogion prosiect yn gweithio’n agos gyda’r sawl sy’n cymryd rhan i adnabod sgiliau neu weithgareddau a fyddai’n ddefnyddiol iddynt, tebyg i cynyddu hyder, rheoli arian, sgiliau digidol, gwirfoddoli a mwy.

Cafodd un o’r rhai a gymerodd ran – Miss X – ei chefnogi gan dim y prosiect i ddiweddaru ei CV a dysgu technegau cyfweld i’w helpu i chwilio am gyfleoedd cyflogaeth. Cymerodd Miss X ran hefyd mewn sesiynau hyder digidol a dilyn cyrsiau blas ar y Gymraeg ar-lein. Ers iddi gymryd rhan yn y prosiect mae Miss X yn teimlo’n fwy hyderus, fod ganddi fwy o gymhelliant a’i bod yn llai ynysig nag oedd yn dilyn pandemig COVID-19. Dywedodd: “Rwy’n teimlo fod gen i fwy o hyder nad oedd gennyf cyn dod i’r prosiect. Rwyf wedi gwneud ffrindiau yn rhai o’r sesiynau a gwaith cwrs sydd wedi fy helpu i beidio teimlo mor ynysig.”

Partneriaeth Working Wardrobe - partneriaeth hyb Rhydyfelin

Mae Working Wardrobe yn gweithio gyda Moxie People, Platfform, Cymdeithas Tai Newydd, Tai Calon, United Welsh, Working Families a Bluegg i lansio Hyb Rhydyfelin. Nod y prosiect yw rhoi pobl i hyder i gael dechrau da i’w gyrfaoedd drwy ddarparu dillad gwaith a chyfweliadau am ddim i bobl.

Agorodd yr hyb ar 10 Mawrth 2022 ac ers hynny mae wedi cyflenwi dillad i lawer o bobl leol sy’n gwneud cais am waith neu sydd wedi cael swyddi newydd yn ddiweddar.

Sesiynau sgiliau tenantiaid 1-i-1 - Cymdeithas Tai Cadwyn

Mae Cymdeithas Tai Cadwyn yn cynnig sesiynau un-i-un i helpu tenantiaid gyda’u sgiliau cyflogadwyedd tebyg i ysgrifennu CV, llythyrau egluro a datganiadau, chwilio am swydd, cymorth ceisiadau swydd, paratoi ar gyfer cyfweliad, cymorth mewn-gwaith, rheoli Credyd Cynhwysol, cymorth digidol, cyllid ar gyfer hyfforddiant, cynyddu hyder, cymorth gyda thrwyddedau gyrru darpariaethol, arian ar gyfer dillad ac arian ar gyfer teithio.

Hyb gymunedol Y Sied Fach - RHA Cymru

Mae RHA Cymru wedi troi ei hen ofod swyddfa yn hyb gymunedol fodern aml-ddefnydd dan yr enw Y Sied Fach. Ymunodd y gymdeithas tai gyda phrosiect ieuenctid Black Sheep (rhan o ARC Training Company) i ailwampio’r gofod ar Stryd Dunraven yn Nhonypandy, a gafodd wedyn ei agor i’r gymuned ym mis Medi 2022.

Mae prosiect Black Sheep yn cefnogi pobl ifanc i ddysgu sgiliau i weithio mewn adeiladu. Helpodd 30 o bobl ifanc o Maes Gwyn ac Ysgol Gymunedol Ferndale i adnewyddu y Sied Fach fel rhan o’r prosiect a chwblhau Lefel 1 mewn iechyd a diogelwch mewn adeiladu, Lefel 1 mewn ymwybyddiaeth asbestos a Lefel 2 mewn codi a chario ar hyd y ffordd.

Mae’r Sied Fach bellach yn gartref i brosiect parseli bwyd Grub Hub RHA a phrosiect oergell gymunedol; mae hefyd yn gartref i Caffe Trwsio Cymru, Dyddiau Gwener Digidol a’n rhaglenni iechyd a llesiant - Be Active RCT.

Mae contractwyr a chyflenwyr eraill hefyd wedi cefnogi’r fenter drwy raglen buddion cymunedol Giving Back RHA.

Sefydliad sgiliau, hyfforddiant a phrofiad tenantiaid - Tai Tarian

Mae Tai Tarian newydd recriwtio ei ddegfed grŵp i’w Sefydliad Copper, sy’n anelu i roi llwybr yn ôl i gyflogaeth i bobl sy’n ei chael yn anodd canfod gwaith. Lansiwyd y sefydliad yn 2017 ond nawr, yn 2022, mae ei rôl yn cefnogi tenantiaid i swyddi yn bwysicach nag erioed.

Caiff pobl sy’n ymrestru ar y cynllun gontractau 12-mis ar dâl i weithio ar raglen gwelliannau allanol Tai Tarian. Yn ystod y cyfnod hwn maent yn derbyn hyfforddiant, sgiliau a phrofiad fydd yn eu helpu i fynd ymlaen i ganfod cyflogaeth bellach.

Darparodd y sefydliad gyfleoedd i 75 o bobl yn ei bedair blwyddyn gyntaf. Buont yn gweithio ar tua 600 o anheddau Tai Tarian, gan wella eu hymddangosiad a’u diogelwch.

Dywedodd un o’r tenantiaid newydd a recriwtiwyd yn ddiweddar: “Fe fyddaf yn bennaf yn gweithio yn yr ardal lle’r wyf yn byw ac yn helpu i wella’r ffordd y mae’n edrych, felly rydw i’n edrych ymlaen yn fawr ato.”

Meddai Nick Cope, Pennaeth Buddsoddiad Cyfalaf Tai Tarian: “Hanfod y proseict yw rhoi profiad gwych o fyd gwaith i bobl ac yn y 12 mis nesaf byddant yn dilyn nifer fawr o gyrsiau hyfforddi a bydd ganddynt ran enfawr wrth wella ardaloedd allanol ein cartrefi.

“Yn ystod eu 12 mis gyda ni byddant yn cael rhychwant mawr o brofiadau ymarferol, gan weithio wrth ochr ein tîm profiadol o grefftwyr. Ond, yr un mor bwysig, byddwn hefyd yn rhoi cefnogaeth ychwanegol iddynt tebyg i hyfforddiant mewn technegau cyfweliad a chyngor ar sut i ysgrifennu CV a llenwi ffurflenni cais am swydd i’w paratoi ar gyfer y cam nesaf yn eu gyrfaoedd.”

Oes gennych chi unrhyw gwestiynau hoffech chi gael mwy o wybodaeth am sut y sefydlwyd y cynllun? Anfonwch e-bost at copper@taitarian.co.uk

Academi Adra

Fe wnaeth Adra lansio Academi Adra yn 2021 i ddarparu cyfleoedd profiad gwaith, sgiliau, prentisiaethau a chyflogaeth lawn-amser i denantiaid a phobl leol. Cafodd 70 o unigolion eu cefnogi yn ystod ei flwyddyn gyntaf.

Swydd ddelfrydol i Dylan - Tai Calon

Cysylltodd tad Dylan â ni i holi os gallem gynnig cefnogaeth cyflogadwyedd i’w fab.

Fe wnaeth Jo Reams, ein Hyfforddwr Llesiant, gysylltu â Dylan i weld pa help roedd ei angen. Roedd Dylan yn ddyn ifanc cwrtais, dymunol a hoffus iawn a ddatgelodd ei fod ar y sbectrwm awtistig ac wedi cael trafferth gyda rhai agweddau o addysg brif ffrwd.

Roedd wrthi yn dilyn cwrs technoleg gwybodaeth yng Ngholeg Gwent. Esboniodd Dylan ei fod yn angerddol am gyfrifiaduron. Ers pan oedd yn ifanc, bu’n ailadeiladu ac atgyweirio cyfrifiaduron desg a gliniaduron fel hobi ac roedd eisiau gwneud cais am Brentisiaeth TG gyda Chymuned Ddysgu Ebwy Fawr.

Wedyn rhoddodd Jo gefnogaeth i Dylan wrth deilwra ei CV a’i gais i ateb gofynion y swydd. Gwahoddwyd Dylan i gyfweliad ychydig wythnosau yn ddiweddarach. I gryfhau ei brofiad cyfredol mewn TG, trefnodd Jo leoliad gwirfoddol gyda Cwmni Budd cymunedol Goetiroedd Sirhywi i ddiweddaru eu gwefan. Cafodd Dylan adborth rhagorol o’i leoliad ac wedyn cyflwynodd Jo sesiwn techneg cyfweliad i sicrhau fod Dylan wedi paratoi’n dda ar gyfer y cyfweliad go iawn.

Ychydig ddyddiau ar ôl ei gyfweliad cysylltodd Ebwy Fawr â Dylan i gynnig prentisiaeth iddo gan ddweud fod ei gyfweliad yn rhagorol ac mai ef oedd yr ymgeisydd gorau.

Mae Dylan wedi dechrau yn ei swydd newydd a dywedodd ei fod wrth ei fodd gyda’i swydd ddelfrydol a’i fod yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth a gafodd gan Jo.

Rwy’n siŵr yr hoffai pawb ohonoch ymuno â ni mewn llongyfarch Dylan am gyflawni ei nod.

Os ydych eisiau help i ganfod eich swydd ddelfrydol, cysylltwch gyda’n Hyfforddwyr Llesiant ar 0300 303 1717 neu anfon e-bost atynt yn talktous@taicalon.org. Mae mwy o gyngor gyrfa hefyd ar gael ar ein gwefan.

Helpu tenantiaid i ganfod gwaith-Melin

Y llynedd fe wnaeth Melin helpu 52 o breswylwyr i gyflogaeth gynaliadwy lawnamser neu ran-amser drwy roi cymorth gydag ysgrifennu CV, cyngor da ar gyfer cyfweliadau, meithrin hyder a chymorth ariannol i brynu dillad gwaith addas.

Mae’r gymdeithas tai wedi adeiladu cysylltiadau cryf gyda chyflogwyr ar lefel ranbarthol a chenedlaethol. Roedd un tenant a gefnogwyd drwy’r cynllun yn berson oedd wedi ailsefydlu yma o Afghanistan; daeth o hyd i waith fel swyddog diogelwch a chafodd ei ddyrchafu’n gyflym i fod yn arweinydd tîm.

Newyddion a blogiau cysylltiedig

Papurau gwybodaeth polisi