Polisi ac Ymarfer: Edrych ar ymyriadau effaith uchel i liniaru tlodi
Rhydd
Yn y sesiwn yma bydd Rachel Walker, Cyfarwyddwr Ymchwil a Pholisi yn Policy & Practice yn trafod eu hymchwil yng Nghymru i ddynodi effaith gwahanol ymyriadau, ar wahân ac ar y cyd, ar incwm a chostau pobl sydd ag incwm cymharol isel er mwyn llywio strategaethau a chamau gweithredu’r dyfodol gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill.
Mae CHC a Sefydliad Bevan, ynghyd â phartneriaid eraill, wedi cyd-gomisiynu Policy & Practice i fodelu gwahanol opsiynau polisi yng Nghymru a dynodi pa ymyriadau allai gael yr effaith fwyaf wrth liniaru tlodi.