Paratoi ar gyfer Grŵp Cyswllt Tir ac Eiddo gyda Cubed Tax.
Rhydd
Bydd un o’n partneriaid masnachol newydd, Cubed Tax, yn cynrychioli Cartrefi Cymunedol Cymru a’n haelodau yn y Grŵp Cyswllt Tir ac Eiddo (LPLG). Mae’r LPLG yn darparu cyfle i HMRC a chynrychiolwyr enwebedig o gyrff masnach sydd â ddiddordeb mewn materion TAW sy’n ymwneud â thir, eiddo, ac adeiladu, i rannu eu barn, trafod materion perthnasol, a chydgrynhoi dealltwriaeth HMRC o’i gwsmeriaid.
Cyfle gwych yw hyn i godi cwestiynau pwysig a sicrhau bod lleisiau cymdeithasau tai yn cael eu clywed. Rydym ni’n bwriadu trefnu gweminar o flaen pob cyfarfod y Grŵp LPLG, i nodi eich pryderion a’ch blaenoriaethau, fel y gellir eu codi ar eich rhan. Byddant hefyd yn rhoi adborth i chi ar ôl i’r cyfarfodydd ddigwydd.