Jump to content

Thomas Hoddell

Swyddog Creadigol Brand a Dylunio

Mae Tom yn ddylunydd a darlunydd profiadol iawn gyda dros 15 mlynedd o brofiad.

Ar ôl gweithio’n flaenorol fel Golygydd Celf ar gyfer cylchgrawn a gwefan 24housing am 12 mlynedd, mae’n gallu dod ag amrywiaeth o faterion yn fyw drwy’r cyfryngau print a digidol. Mae profiad helaeth Tom yn ymestyn i gelf, dylunio, ffotograffiaeth, fideograffeg a golygu.

Yn Cartrefi Cymunedol Cymru mae Tom yn goruchwylio holl gynnwys dylunio, yn cynnwys arwain a chynghori ar gynnwys ymgyrchoedd, dylunio gwefan, dylunio deunydd cysylltiedig a bwletin, graffeg cyfryngau cymdeithasol a ffotograffiaeth a mwy.