Josh Lovell
Cynghorydd Materion Cyhoeddus a Pholisi
Josh yw ein Cynghorydd Materion Cyhoeddus a Pholisi ac mae ei ffocws ar bopeth yn ymwneud â materion cyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys y ffordd orau i gysylltu gyda gwleidyddion a phleidiau gwleidyddol, gan gasglu dealltwriaeth i helpu llywio ein gwaith a gweithio’n agos gyda’n Harweinwyr Polisi i ddylanwadu ar benderfyniadau a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru.
Mae Josh hefyd yn gyfrifol am y portffolio polisi Llesiant a Chostau Byw.
Cyn dod i weithio i CHC, bu Josh yn gweithio yn y Cyngor Meddygol Cyffredinol lle bu’n gweithio yn y tîm Polisi a Materion Allanol. Ffocws Josh oedd meithrin cysylltiadau gyda rhanddeiliaid allweddol.