Jump to content

Hayley MacNamara

Rheolwr Polisi a Materion Allanol

Mae Hayley yn gynghorydd polisi arbenigol yn goruchwylio gwaith Cartrefi Cymunedol Cymru ar gostau byw, lleithder a llwydni a thai mewn cyflwr gwael.

Mae Hayley mewn cysylltiad cyson gyda Llywodraeth Cymru, partneriaid a chymdeithasau tai ar draws Cymru i sicrhau y caiff llais tenantiaid ei glywed a’u bod yn derbyn y cymorth hanfodol maent ei angen.

Dros y 10 mlynedd ddiwethaf yn Cartrefi Cymunedol Cymru bu’n gweithio mewn amrywiaeth o bortffolios polisi yn cynnwys ymestyn Credyd Cynhwysol, Gwerth am Arian, Polisi Rhent ac, yn fwy diweddar, ansawdd tai a thai mewn cyflwr gwael.

Gan weithio gydag aelodau, mae Hayley hefyd yn arwain ar ran Cartrefi Cymunedol Cymru ar gyfer y gymuned aelodaeth rheoli tai a llesiant.