Alex Myles
Cynorthwyydd Materion Allanol
Alex yw Cynorthwyydd Materion Allanol Cartrefi Cymunedol Cymru. Mae Alex yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr polisi a materion cyhoeddus i ddylanwadu ar y llywodraeth a gwneuthurwyr polisi, gan arwain ymateb CHC i gyllideb Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn cefnogi cyfathrebu gydag aelodau a chyfathrebu allanol ac mae ganddo drosolwg ar ymgyrch CHC ar gyfer etholiadau’r Senedd.
Yn flaenorol, roedd Alex yn gweithio yn News Direct Wales fel Pennaeth Monitro, gan roi cymorth gyda pholisi a materion cyhoeddus i gleientiaid o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector yng Nghymru – gan helpu dealltwriaeth o broses wleidyddol ac ymdrechion eiriolaeth Cymru. Hyfforddodd Alex fel newyddiadurwr a chafodd erthyglau wedi eu cyhoeddi gan y Sefydliad Materion Cymreig a chylchgrawn The Face.