Jump to content

Lesley Kirkpatrick

Aelod bwrdd

Lesley yw prif weithredwr Techniquest. Ers dechrau yn ei swydd ym mis Chwefror 2016, blaenoriaeth Lesley fu arwain yr elusen drwy gyfnod o newid cyson, gan ailwampio’r ochr fusnes i greu cyfleoedd newydd ar gyfer cynhyrchu incwm, i gyd gyda’r nod o sicrhau dyfodol hirdymor yr elusen.

Rhwng 2013 a 2016 roedd Lesley yn gyfarwyddwr The Prince’s Trust Cymru. Roedd yn arwain y gwaith ar draws Cymru oedd yn cyflwyno rhaglenni addysgol a chyflogadwyedd ar gyfer miloedd o bobl ifanc ddifreintiedig ar draws y wlad. Mae gan Lesley dros 33 mlynedd o brofiad, yn gweithio ym meysydd adfywio, datblygu economaidd a chynllunio mewn llywodraeth leol. Yn ogystal â The Prince’s Trust mae wedi gweithio mewn swyddi arweinyddiaeth ar gyfer awdurdodau lleol (ac Awdurdod Parc Cenedlaethol) yng Nghymru a Lloegr.