Am y Rôl
Ydych chi’n angerddol am gyfathrebu clir ac effeithlon a gyrru newid ystyrlon? Ydych chi’n medru creu cynnwys grymus sy’n glir, cryno ac yn argyhoeddi? Mae Cartrefi Cymunedol Cymru yn edrych am Gynghorydd Cyfathrebu i helpu rhannu gwaith pwysig cymdeithasau tai yng Nghymru.
Yn y rôl hon byddwch yn meithrin cysylltiadau cryf gyda chydweithwyr yn CHC, y cyfryngau, rhanddeiliaid a’n haelodau i rannu negeseuon allweddol ac ymdrechion eirioli mewn ffyrdd creadigol a grymus. Os ydych yn rhagweithiol, creadigol ac yn medru rheoli cyfathrebu mewn amgylchedd sy’n symud yn gyflym, mae hwn yn gyfle i gael effaith go iawn. Byddwch yn gweithio gyda chydweithwyr i helpu dweud straeon ein haelodau drwy deilwra negeseuon allanol ar draws llwyfannau aml-sianel, gan drin ymholiadau gan y cyfryngau a chefnogi cyfathrebu mewn argyfwng.
Rydym yn edrych am gyfathrebydd creadigol sydd â ffocws ar fanylion a all ddod â materion cymhleth yn fyw mewn ffordd glir a difyr. Byddwch yn dadansoddi data i ddeall effeithlonrwydd ein cyfathrebu, adnabod risgiau sy’n dod i’r amlwg a datblygu cynnwys sy’n gydnaws â’n cenhadaeth. Gan weithio’n agos gyda’r uwch dîm arweinyddiaeth, byddwch yn cefnogi ymgysylltu mewnol ac allanol ac yn arwain ar gynlluniau ymgyrchu. Os ydych yn ysgrifennwr cryf gydag angerdd am bolisi sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i bobl a chymunedau, byddem wrth ein bodd clywed gennych!
I gael gwybod mwy, cymerwch olwg ar y pecyn swydd isod.
Sut i Wneud Cais
Mae’r manylion dilynol yn y pecyn swydd hwn: disgrifiad swydd, manyleb person a gwybodaeth am delerau ac amodau.
- Disgrifiad swydd, manyleb person a gwybodaeth ar delerau ac amodau.
- Ffurflen gais, y bydd angen i chi ei llenwi yn amlinellu mewn dim mwy na 800 gair sut ydych yn ateb y meini prawf profiad a nodir yn y rhan ‘yr hyn rydym yn edrych amdano’ o’r fanyleb swydd a pham eich bod eisiau’r swydd.
- Mae’n RHAID i chi hefyd gyflwyno CV wedi ei deilwra yn ymwneud â’ch cais am y swydd hon (dim mwy na thair tudalen).
- Ffurflen cyfle cyfartal. Ni chaiff y ffurflen hon ei defnyddio ar unrhyw gam o’r broses recriwtio a chaiff ei gwahanu oddi wrth eich ffurflen gais yn syth ar ôl ei derbyn. Bydd unrhyw wybodaeth a roddir ar y ffurflen yn parhau’n gyfrinachol a dim ond ar gyfer dibenion monitro i asesu effeithlonrwydd ein polisi cyfle cyfartal y caiff ei defnyddio.
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch os gwelwch yn dda â, Rhea Stevens.
Dylid anfon y ffurflen wedi’i llenwi, CV a’r ffurflen cyfle cyfartal drwy e-bost wedi’i marcio yn Preifat a Chyfrinachol – Cynghorydd Materion Cyhoeddus a Pholisi to recruitment@chcymru.org.uk erbyn 5pm dydd Mawrth 17 Mehefin 2025.
Caiff pob ffurflen ei chadw am chwe mis yn unol ag arfer gorau i sicrhau y gallwn roi adborth i ymgeiswyr aflwyddiannus ac i gefnogi’r sefydliad pe byddid yn dod â hawliad yn ei erbyn.
Caiff y rhestr fer ei llunio ar 18 Mehefin 2025
Cynhelir cyfweliadau ar 24 Mehefin 2025
Edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais wedi’i gwblhau.
Lawrlwytho
Pecyn Swydd
Lawrlwytho
Disgrifiad Swydd Llawn
Lawrlwytho
Ffurflen Gyflwyno
Lawrlwytho