Jump to content

Rheolau Enghreifftiol

Yn gryno

Darparwn set bwrpasol o Reolau Enghreifftiol i’w defnyddio gan gymdeithasau tai, a gynlluniwyd i adlewyrchu deddfwriaeth benodol, y fframwaith rheoleiddiol ac arweiniad yng Nghymru.

Cafodd Rheolau Enghreifftiol CHC eu diweddaru a chyhoeddwyd fersiwn newydd ar 24 Mai 2021. Cawsant eu drafftio a’u diweddaru gan Devonshires Solicitors, mewn ymgynghoriad gyda CHC, cymdeithasau tai a rhanddeiliaid eraill.

Ysgrifennwyd y Rheolau Enghreifftiol gyda’r bwriad o fod yn ddigon cyffredinol fel y gallai pob cymdeithas tai eu defnyddio.

Fodd bynnag, maent yn cynnwys ystod o opsiynau i ddiwallu ystod o wahanol anghenion. Mae’r opsiynau a ddarparwyd yn cynnwys:

  • Adran 1: Opsiynau generig i’r model sylfaenol ar gyfer pob Cymdeithas Tai;
  • Adran II: Opsiynau grwpiau, cyrff rhiant ac is-gyrff;
  • Adran III: Opsiynau yn benodol yn ymwneud â Sefydliadau Trosglwyddo Gwirfoddol Fawr a Chymdeithasau Cymunedol Cydfuddiannol (lle maent yn debyg);
  • Adran IV: Unrhyw opsiynau ychwanegol na chaiff eu cynnwys yn Adran III uchod yn cyfeirio yn benodol at Gymdeithasau Cymunedol Cydfuddiannol

Dolenni:

Crynodeb llawn

Mae’n flin gennym, nid oes eitemau ar gael ar hyn o bryd