Jump to content

Rheoleiddio Tai yng Nghymru

Yn gryno

Mae landlord cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru yn cael eu rheoleiddio gan Weinidogion Cymru yn unol â Rhan 1 Deddf Tai 1996.

Mae’r Fframwaith Rheoleiddiol ar gyfer Cymdeithasau Tai a gofrestrwyd yng Nghymru (2021), yn cynnwys naw safon y mae’n ofynnol i landlordiaid roi tystiolaeth o fod wedi cydymffurfio â nhw. Mae’r holl safonau yn rhai seiliedig ar ddeilliant ac wedi eu dylunio i brofi bod cymdeithasau tai yng Nghymru yn:

Cael eu llywodraethiant yn dda;

Cyflawni cartrefi a gwasanaethau o safon uchel; ac

Yn hyfyw yn ariannol.

Er mwyn cefnogi gweithredu’r fframwaith, mae’r tîm Rheoleiddio Tai, ynghyd â chynrychiolwyr o LCC a Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC) yn datblygu nodyn ymarfer.

Cyd-reoleiddio

Mae rheoleiddio yng Nghymru yn seiliedig ar fodel cyd-reoleiddio. Yr hyn y mae hyn yn ei olygu yn ymarferol yw bod Aelodau o Fyrddau Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru yn gorfod ceisio sicrwydd bod eu sefydliad yn cyflawni fel y maent yn bwriadu ac yn ôl y safonau Rheoleiddiol. Yn eu tro bydd tîm Rheoleiddio Tai Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrwydd ar ran y Gweinidogion bod Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn addas i’r diben ac yn cyflawni.

Y Tîm Rheoleiddio Tai

Mae Tîm Rheoleiddio Tai Llywodraeth Cymru yn cynnal y gweithgareddau rheoleiddio o ddydd i ddydd ar ran y Gweinidogion, gan gynnwys gweithredu’r fframwaith Rheoleiddiol. Maent yn rhoi adroddiad ar eu canfyddiadau ac yn gwneud argymhellion i Weinidogion ac yn gyfrifol am gynnal a chyhoeddi rhestr o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru, gan gynnwys y farn Reoleiddiol fwyaf diweddar ar gyfer pob cymdeithas.

Hunanwerthusiad

Mae’n ofynnol i bob landlord cymdeithasol gynnal hunanwerthusiad blynyddol mewn cymhariaeth â’r safonau Rheoleiddiol sydd yn y fframwaith. Rhoddir gwybodaeth fwy manwl am hunanwerthusiad yn y fframwaith Rheoleiddiol, ac mae’n rhan greiddiol o’r Asesiad Rheoleiddiol.

Asesiad Rheoleiddiol

Cynhelir yr Asesiad Rheoleiddiol gan y tîm Rheoleiddio Tai, ac mae’n adolygu perfformiad y cymdeithasau gan ystyried yr hunanwerthusiad a gwybodaeth arall y mae gofyn ei darparu i’r Tîm Rheoleiddio trwy gydol y flwyddyn.

Dyfarniad Rheoleiddiol

Yn dilyn yr Asesiad Rheoleiddiol rhoddir Dyfarniad Rheoleiddiol. Rhoddir y dyfarniad am Lywodraethu (gan gynnwys Cyflawni Gwasanaeth) a Hyfywedd Ariannol.

Ein swyddogaeth

Mae Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC) yn gweithio gydag aelodau a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y rheoleiddo yn gymesur ac yn galluogi cymdeithasau tai unigol yn effeithiol i gyflawni eu diben craidd a’u nodau strategol.

Crynodeb llawn
Anna Humphreys

Gyda phwy i siarad...

Anna Humphreys

Mae’n flin gennym, nid oes eitemau ar gael ar hyn o bryd

Mae’n flin gennym, nid oes eitemau ar gael ar hyn o bryd