Jump to content

Cartrefi mewn cyflwr gwael

Yn gryno

Mae cymdeithasau tai yn wynebu sylw cynyddol yn dilyn newyddion ar y cyfryngau am broblemau cartrefi mewn cyflwr gwael, sydd wedi arwain at bryderon am ddiogelwch tenantiaid tai cymdeithasol trwy’r Deyrnas Unedig. Wrth ymateb i’r problemau hyn, mae CHC wedi datblygu cynllun gweithredu, yn seiliedig ar yr amcanion canlynol:

1. Cefnogi aelodau i gysylltu gyda’i gilydd i rannu ymarfer da a gweithgareddau fydd yn eu cefnogi i gyflawni a rheoli gwasanaethau effeithiol sy’n cydymffurfio. Mae aelodau’r grwpiau ffocws yn arweinwyr (Aelodau o’r Bwrdd), Rheolwyr Asedau ac arweinwyr Cyfathrebu.

2. Rhoi gwybodaeth a dylanwadu ar newidiadau i bolisïau a/neu reoliadau fel eu bod yn adlewyrchu barn aelodau i gryfhau cyflawni gwasanaeth a’i ansawdd.

3. Cefnogi ein haelodau i weithio trwy gynnydd yn y craffu ar gartrefi mewn cyflwr gwael a rheoli risgiau i enw da’r sector cyfan. Gall aelodau gael mwy o wybodaeth am y gwaith hwn ar ein hyb Cartrefi mewn Cyflwr Gwael: https://chcymru.org.uk/disrepair-hub

Crynodeb llawn

Mae’n flin gennym, nid oes eitemau ar gael ar hyn o bryd