Ymgysylltu Tenantiaid mewn Datgarboneiddio
Yn gryno
Er mwyn i raglenni datgarboneiddio fod yn effeithlon, bydd yn bwysig i gymdeithasau tai ac eraill sy’n ymwneud â’r broses i ymgysylltu gyda thenantiaid. Mae’n rhaid i denantiaid fod eisiau i waith fynd rhagddo, deall sut i ddefnyddio technolegau gwresogi a hyrwyddo’r rhaglen.
Mae manteision lluosog i adeiladu cartrefi carbon isel a chynnwys gostwng biliau ynni, gan gyfrannu at fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a chreu swyddi a chyfleoedd hyfforddiant yn y gymuned leol. Anelwn gefnogi cymdeithasau tai i ymgysylltu gyda’u tenantiaid mewn ffordd sy’n addas ac effeithlon.
Sut ydym yn datblygu’r maes hwn o waith
Rydym yn cyd-gadeirio Cymuned Ymarfer Cysylltu â Thenantiaid gyda Cynnal Cymru sy’n cynnwys cymdeithasau tai a phartneriaid allanol sy’n rhannu arfer, profiadau a syniadau ar ymgysylltu gyda thenantiaid ar ddatgarboneiddio.
Rydym hefyd yn rhan o waith cyfathrebu Llywodraeth Cymru ar ddatgarboneiddio gyda’r asiantaeth cyfathrebu a marchnata Cowshed, gan lunio negeseuon allweddol o amgylch datgarboneiddio a gaiff ei rannu gyda thenantiaid.
Gyda phwy i siarad...
Bryony Haynes
Mae’n flin gennym, nid oes eitemau ar gael ar hyn o bryd
Mae’n flin gennym, nid oes eitemau ar gael ar hyn o bryd