Jump to content

Economi Sylfaenol

Yn gryno

Mae gan raglenni datgarboneiddio y potensial i adeiladu ar yr economi sylfaenol mewn ffordd sylweddol yng Nghymru.

Dengys ein ymchwil yn edrych ar effeithiau economaidd-gymdeithasol cymdeithasau tai y byddai’r sector, os ydym yn llwyddiannus mewn cyflawni ein gweledigaeth o adeiladu 75,000 o gartrefi carbon isel hyd at 2036, yn cefnogi:

  • £23.2bn o weithgaredd economaidd ar draws Cymru
  • Creu 50,000 o swyddi yn yr economi ehangach
  • Darparu 19,500 o gyfleoedd hyfforddiant a phrentisiaethau
  • Tyfu i gyflogi cyfanswm o 16,000 o weithwyr

Mae ein ffocws presennol ar argaeledd sgiliau yng Nghymru., Heb y sgiliau sydd eu hangen, ni all cymdeithasau tai ddatgarboneiddio ar raddfa eang. Byddwn yn datblygu adolygiad llenyddiaeth o gyflwr sgiliau ac yn cynnal sesiwn cwmpasu gyda chi i ddeall yr heriau ymhellach.

Sut ydym yn datblygu’r maes hwn o waith

Bydd y sesiwn cwmpasu sgiliau yn cynnwys cymdeithasau tai a phartneriaid allanol, a bydd yn ein cefnogi i ddatblygu ein gwaith yn y maes hwn.

Crynodeb llawn
Bryony Haynes

Gyda phwy i siarad...

Bryony Haynes

Mae’n flin gennym, nid oes eitemau ar gael ar hyn o bryd

Mae’n flin gennym, nid oes eitemau ar gael ar hyn o bryd