Jump to content

Tlodi Tanwydd

Yn gryno

Yng Nghymru, mae’r amcangyfrifon diweddaraf yn dangos bod 12%, neu 155,000 o aelwydydd yn byw mewn tlodi tanwydd, a 9%, neu 21,000 o denantiaid tai cymdeithasol yn byw mewn tlodi tanwydd.

Mae tri pheth yn pennu tlodi tanwydd; effeithlonrwydd ynni gwael, incwm isel, a chostau tanwydd uchel. Mae cymdeithasau tai yn chwarae eu rhan wrth leihau tlodi tanwydd trwy adeiladu ac ôl-osod cartrefi i fod yn fwy effeithlon o ran ynni a thrwy gefnogi tenantiaid i sicrhau’r incwm mwyaf.

Fe wnaethom ddarparu tystiolaeth lafar ac ysgrifenedig i ymchwiliad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i dlodi tanwydd, a gellir gweld yr adroddiad yma. Rydym yn croesawu cynllun Llywodraeth Cymru, sydd wedi ei adnewyddu, i daclo tlodi tanwydd, gan ei bod yn glir bod angen cynllun wedi ei adnewyddu a’i ddiweddaru i daclo’r broblem yn fwy effeithiol.

Sut yr ydym yn datblygu’r maes hwn o’n gwaith

Roeddem yn eistedd ar banel cynghori Llywodraeth Cymru ar dlodi tanwydd i gefnogi datblygu polisïau a chynlluniau i leihau lefelau tlodi tanwydd yng Nghymru.

Rydym hefyd wedi cefnogi datblygiad Safon Ansawdd Tai Cymru 2023, a fydd yn gweld cymdeithasau tai yn gwella effeithlonrwydd ynni eu cartrefi ymhellach.

Crynodeb llawn
Bethan Proctor

Gyda phwy i siarad...

Bethan Proctor