Jump to content

Cartrefi i Gymru

Cartrefi i Gymru oedd ein hymgyrch cyn etholiadau 2016 i Gynulliad Cymru, yn dod â phobl, elusennau a busnesau ynghyd o bob rhan o Gymru.

Am beth mae ymgyrch ‘Cartrefi i Gymru’?

‘Cartrefi i Gymru' oedd ein hymgyrch cyn etholiadau 2016 i Gynulliad Cymru, yn dod â phobl, elusennau a busnesau ynghyd o bob rhan o Gymru dan y pennawd syml:

Homes for Wales campaign logo
Dod â’r argyfwng tai i ben, adeiladu Cymru gryfach

Yn dilyn blynyddoedd lawer o drafodaeth wleidyddol sylweddol am iechyd, llywodraeth leol a pherthynas y Deyrnas Unedig gydag Ewrop, teimlai llawer fod tai wedi gostwng yn y rhestr blaenoriaethau gwleidyddol. Ein nod oedd codi proffil yr argyfwng tai a gofyn i wleidyddion roi blaenoriaeth iddo ar gyfer Llywodraeth Cymru yn dilyn yr etholiad.

Ym mis Mawrth 2016 cerddodd cannoedd o bobl drwy Gaerdydd i alw ar Lywodraeth Cymru i ddod â’r argyfwng tai i ben ac adeiladu Cymru gryfach.

Roedd yr ymgyrch yn bartneriaeth rhwng y sefydliadau dilynol:

Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC)

Sefydliad Tai Siartredig Cymru

Tenantiaid Cymru

Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi

Cymdeithas Landlordiaid Preifat

Sefydliad Brenhinol Cynllunio Trefi

Care & Repair Cymru

Shelter Cymru

ac roedd y gefnogaeth yn amrywio o sefydliadau tebyg i’r CBI i’r Coleg Brenhinol Nyrsio.

Pa wahaniaeth wnaeth yr ymgyrch?

Fe wnaeth pob plaid a etholwyd i Gynulliad (bellach Senedd) Cymru yn 2016 gefnogi’r ymgyrch ac ymrwymo i gynnwys cynigion uchelgeisiol yn eu maniffestos i ddatrys yr argyfwng tai.

Arweiniodd hyn at i dai gael lle amlwg yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru, gyda chytundeb tai fforddiadwy tair ochrog wedi ei gytuno rhwng cymdeithasau tai, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru. Roedd y cytundeb yn cynnwys ystod eang o uchelgeisiau, yn cynnwys gosod targed o ddarparu 20,000 o gartrefi yn ystod tymor y llywodraeth.

Rydym hefyd wedi gweld lefelau’r cyllid a ymrwymwyd i dai cymdeithasol yn cael eu trawsffurfio fel canlyniad. Yn 2016, fe wnaeth cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru ar y bryd ymrwymo £68 miliwn i grant tai cymdeithasol. Yn 2021, mae’r gyllideb yn £250 miliwn.

Ble gallaf gael mwy o wybodaeth?

Mae’r ymgyrch drosodd erbyn hyn. Gallwch weld y crynodeb o rali ‘Cartrefi i Gymru’ eleni.