Adroddiad Trylowyder Tâl
Bwriad yr adroddiad hwn yw hyrwyddo ymddiriedaeth yn y sector tai cymdeithasol drwy ymrwymiad sector cyfan i fod yn dryloyw am dâl a chydnabyddiaeth ariannol i aelodau bwrdd.
Mae’n anelu i sicrhau fod unrhyw benderfyniadau am dâl uwch swyddogion yn dryloyw i’r llywodraeth, gwleidyddion, tenantiaid a’r cyhoedd yn ehangach drwy gyflwyno gwybodaeth ffeithiol, glir ar dâl uwch reolwyr mewn un lle. Nid yw’r adroddiad yn mynd ati i ddadansoddi, dod i gasgliadau nac argymhellion.
Cymerodd 34 o gymdeithasau tai Cymru ran yn yr arolwg Prif Swyddogion Gweithredol ym mis Tachwedd 2023. Mae’r data yn cyfeirio at wybodaeth am gyflogau ar 1 Ebril 2021 a 31 Mawrth 2022; ac 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023.
Mae’r data ynghylch tâl yn ôl rhywedd yn cyfeirio at 5 Ebrill 2023.