Jump to content

Cartref!

Cartref! oedd ein ymgyrch cyn etholiadau 2021 i Senedd Cymru; fe wnaethom ddatblygu’r syniadau am newid ar y cyd drwy gannoedd o sgyrsiau gyda chymdeithasau tai a phartneriaid ar draws y r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r sector gwirfoddol.

Roedd gennym rywbeth syml i ofyn amdano a’i gynnig i aelodau’r Senedd: Rhoi ‘cartref’ wrth ganol eich cynlluniau i gefnogi pobl Cymru i fyw bywydau iach, llewyrchus a chysylltiedig. Mae cymdeithasau tai yn barod i fuddsoddi, cydweithio a darparu gyda chi.

Roeddem eisiau i Lywodraeth Cymru:

  • dargedu buddsoddiad ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
  • ei gwneud yn haws i gymryd camau ar y cyd ar gyfer heriau ar y cyd
  • creu lleoedd mae pobl eisiau byw ynddynt

Fe wnaethom hefyd gynnig mawr i’r llywodraeth:

CHC's ideas for change

Ble gallaf gael mwy o wybodaeth?

Lawrlwytho ein maniffesto llawn yma.

Edrych ar ein fideo, Beth mae cartref yn ei olygu i chi, isod.

Sgrolio drwy’r oriel ganlynol yn rhoi sylw i rai o’r pnawdau o’r ymgyrch.

Sut y gallaf gymryd rhan?

Fe wnaeth yr ymgyrch ganolbwyntio ar y cyfnod cyn yr etholiad ac mae’n awr wedi dod i ben, ond gallwch ddal i gymryd rhan yn y ffyrdd dilynol:

Cymdeithasau tai:

  • rhannu enghreifftiau o’ch gwaith ar y cyfryngau cymdeithasol.
  • ymgysylltu mewn modd cadarnhaol gydag Aelodau o’r Senedd.

Partneriaid:

  • siaradwch gyda ni am sut y gallwn gydweithio ar faterion tebyg i ostwng anghydraddoldeb iechyd, cefnogi adferiad economaidd cynaliadwy a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.